Yng nghanol y tywydd rhewllyd, mentro allan i gynhesrwydd Tafarn y Vale wnaeth trigolion Dyffryn Aeron nos Wener diwethaf, er mwyn mwynhau noson o hwyl yng nghwmni criw Hyd y Pwrs – yn Fyw!
Er y gohiriwyd y dyddiad cyntaf nôl ar ddechrau’r Hydref, casglodd gynulleidfa dda yn y Vale a chafwyd noson a oedd werth yr aros.
Iwan John, Rhodri Evan, Aeron Pughe a Steffan Rhys Williams gyflwynodd gymeriadau hen a newydd i’r gynulleidfa – gwnaeth Rhys Meirion ymweld â Dyffryn Aeron am yr ail dro yn ddiweddar(!), cyflwynodd Gareth Goedwig rysáit cacen dra gwahanol a’r hoffus Vic a Viv aeth a’r dorf ar daith yn y lori. Cafodd y gynulleidfa noson o gyd-ganu dwl, llefen chwerthin a syllu’n gegagored ar ei gilydd, gyda rhai hyd yn oed yn profi’r anrhydedd o ymuno â’r cymeriadau enwog ar y llwyfan!
Diolch i Euros Lewis a chriw Hyd y Pwrs am noson i’w chofio – ry’ ni gyd yn “dishgwl mla’n” i chi ddod nôl a’ch dwli i’r Dyffryn yn fuan!