Gêm llawn goliau a drama, gyda Rhys Williams, yr ymosodwr 16 oed yn sgorio ei bedwaredd gôl o’r gêm yn y funud olaf i selio’r fuddugoliaeth i Felinfach. Roedd y tywydd yn wlyb a’r cae yn fwdlyd ond roedd digon o bêl-droed cyffrous i gadw’r dorf ar flaenau eu traed.
Dechreuodd Felinfach yn gryf, gyda Guto Miles yn rhyddhau Rhys Williams i sgorio yn y munudau cyntaf. Cafodd Williams ei ail gôl ar ôl gwaith da gan Rhodri Gregson i’w gwneud hi’n 2-0. Er bod Felinfach yn gwasgu ac yn cael llawer o gyfleoedd i ymestyn y bwlch roedd Crymych hefyd yn creu cyfleoedd, gydag Osian Wyn yn edrych yn beryglus ar yr ochr chwith.
Dechreuodd Crymych yr ail-hanner yn gryf gyda chic o’r smotyn gan Sion Vaughan. Yn fuan wedyn cafwyd ail gôl gan Osian Wyn i’w gwneud hi’n gyfartal.
Roedd Crymych yn edrych yn beryglus ond roedd ymosodwyr Felinfach yn creu problemau gyda’u cyflymder. Cafodd Felinfach gic o’r smotyn, a chyfle i Rhys Williams sgorio’i 3ydd. Aeth y gic o’r smotyn lawr y canol, 3-2 i Felinfach. Gyda’r gêm yn dod at ei derfyn roedd amodau mwdlyd y cae yn ei gwneud hi’n anodd i unrhyw dîm reoli’r chwarae. Ergydiodd Danny Williams, Crymych o bell ac ar ôl i’r bêl wyro oddi ar un o chwaraewyr Felinfach roedd hi’n 3-3.
Yn y funud olaf manteisiodd Cameron Miles ar bas slac a gyrru ymlaen cyn croesi i Rhys Williams sgorio ei 4ydd, a chipio buddugoliaeth ddramatig i Felinfach. Roedd y fuddugoliaeth yn ymestyn rhediad Felinfach i ddeg gêm heb golli. Bydd Felinfach yn chwarae Llandysul neu Pencader yn y rownd gyn-derfynol.
Adroddiad gan Owain Dafydd