Bydd Felinfach yn cystadlu yn rownd nesaf Cwpan Coffa Dai Dynamo ar ôl buddugoliaeth yn erbyn Bargod Rangers. Roedd goliau gan yr ymosodwyr Rhys Williams a Cameron Miles yn yr ail hanner yn ddigon i drechu’r tîm o Sir Gâr.
Dechreuodd Felinfach yn araf iawn, a chawsant eu cosbi chwarter awr i mewn i’r hanner cyntaf gyda chic o’r smotyn dadleuol yn cael ei wobrwyo i Fargod. Sgoriodd Rhydian Davies y gic o’r smotyn, 1-0 i Fargod. Doedd dim sbarc yn chwarae Felinfach, a phan ddaeth hanner amser roedd cyfle i ail-drefnu ac ail-ffocysu.
Roedd gwelliant amlwg yn yr ail-hanner, gyda Felinfach yn dominyddu gyda’r bêl ac yn creu cyfleoedd. Dechreuodd y glaw fwrw yn drwm, ac roedd canol y cae yn fwdlyd iawn. Er hynny, roedd perfformiad egnïol gan fois canol cae Felinfach yn dechrau talu ffordd, gyda’r chwarae i gyd yn hanner Bargod.
Wedi awr o’r chwarae, trodd Cameron Miles yn ganol cae a rhedeg yn gryf rhwng yr amddiffynwyr cyn croesi i Rhys Williams unioni’r sgôr, 1-1. Gyda 10 munud yn weddill, a phwysau yn dechrau gwasgu ar Fargod, fe gafodd Rhys gyfle i sgorio ei ail ac i roi Felinfach ar y blaen. Rhoddodd Rhys y bêl yng nghornel y rhwyd i sgorio ei 15fed gôl yn ei dymor llawn cyntaf gyda’r tîm cyntaf.
Gydag eiliadau yn weddill, taflodd Bargod bawb ymlaen i ymosod, gan gynnwys y gôl-geidwad ar gyfer cic cornel. Llwyddodd Rhys Jon James i gael ei droed at y bêl a rhyddhau Cameron. Rhedodd hyd y cae i sgorio mewn amser ychwanegol am yr ail wythnos yn olynol. 3-1 i Felinfach ac ymlaen i rownd nesaf y gystadleuaeth.
Adroddiad gan Owain Dafydd