Wedi siom y golled yn erbyn Talacharn, mi wnaeth y gêm hon ar Barc Drefach y Sadwrn diwethaf godi calon y cefnogwyr. Cafwyd perfformiad clodwiw gan y tîm cartref yn erbyn tÎm a brofodd yn anodd ei drechu ynghynt yn y tymor. Mi brofodd y clwb rygbi mwyaf gorllewinol yn y Deyrnas Unedig eu brwdfrydedd a’u gallu i gadw’r sgôr yn weddol barchus ar ddechrau’r flwyddyn.
Y blaenwyr yn cario’n gryf
Gyda’r gwynt cryf ar eu cefnau, cafwyd perfformiad arbennig gan y blaenwyr yn gynnar yn y gêm, yn cael eu harwain gan y prop, Ceri Davies a wnaeth sgorio dwy gais yn y chwarter awr gyntaf. Roedd Aberaeron yn dominyddu pob agwedd o’r chwarae a chyn hanner amser cafwyd ceisiau gan Dafydd Llewelyn (2), Dyfrig Dafis a Matthew Harries. Troswyd pump o’r chwe chais gan Rhodri Jenkins i adael y sgôr yn 40 – 0 ar hanner amser.
Yr un fu’r stori i mewn i’r gwynt
Yr un fu’r hanes yn yr ail hanner, er rhaid canmol Tyddewi am eu hymroddiad a’u dygnwch i geisio ymosod ac amddiffyn hyd ddiwedd y gêm, roedd pob agwedd o chwarae’r tîm cartref yn llawer gwell ar y dydd. Cafwyd perfformiad arbennig gan bob un o’r blaenwyr, ond rhaid canmol Osian “Sychpant” Davies, Will James a Hefin Williams am groesi’r llinell fantais yn gyson.
Cadw’r llinell heb ei chroesi
Er i Dyddewi frwydro’n galed gan ymosod gyda brwdfrydedd ar adegau, nid oedd yna ffordd drwy amddiffyn cadarn y tîm cartref. Ychwanegwyd at y sgôr gan Dafydd Llewelyn, Steffan Rees, Dyfrig Dafis, Matthew Harries a Sïon Evans ynghyd â chais gosb. Bu Rhodri Jenkins yn llwyddiannus gyda phedair trosiad.
Enwyd Osian “Sychpant” Davies yn chwaraewr y gêm.
Mae’r gêm nesaf yn erbyn ein cymdogion, Aberteifi ddydd Sadwrn nesaf ar Barc Drefach. Wedi colli yn agos i lawr ar Heol Gwbert ym mis Medi bydd yna awch yng nghalonnau chwaraewyr Aberaeron ar gyfer y ddarbi yma.