Ar frig y tabl

Aberaeron 24 – 7 Aberteifi

Haydn Lewis
gan Haydn Lewis
cefngowyr-aberaeron-rhys-bwtchRhys Hafod

Rhys “Bwtch” Jones yn derbyn cymeradwyaeth y dorf am berfformiad arbennig

Cefnogwyr AberteifiRhys Hafod

Rhai o gefnogwyr Aberteifi

Dafydd-AberteifiRhys Hafod

Dafydd Llewelyn yn croesi am gais gyntaf Aberaeron

Jenks-AberteifiRhys Hafod

Rhodri Jenkins yn torri trwy’r amddiffyn i sgorio

Wedi’r golled agos i lawr yn Aberteifi ar ddechrau’r tymor, roedd Y Gwylanod yn eiddgar am fuddugoliaeth yn erbyn eu cymdogion dydd Sadwrn diwethaf. Dyma’r gêm olaf ar Barc Drefach y tymor yma a hon oedd gêm ddiwethaf y tymor i Aberteifi. Mi deithiodd nifer fawr i’w cefnogi gan obeithio y medrent ddiogelu eu safle ar frig y gynghrair.

Cic gosb arbennig ar ddechrau’r gêm

Wedi ychydig funudau o chwarae, ni fu rhaid i’r tîm cartref bryderu y byddent yn colli’r frwydr yma. Gyda’r gwynt ar eu cefnau, chwaraeodd Aberaeron rygbi ymosodol o’r dechrau gan roddi pwysau ar amddiffyn y gwrthwynebwyr. Yn wahanol i’r ornest i lawr yn Aberteifi, eu tro nhw oedd troseddu yn gyson yn y gêm hon. Canlyniad i hyn oedd i Rhodri Jenkins agor y sgorio gyda chic gosb o ychydig y tu fewn i hanner Aberteifi a thua pymtheg metr o’r ystlys.

Cadwyd y pwysau ar amddiffyn Aberteifi ac wrth iddynt droseddi’n gyson, mi wnaeth Rhodri ychwanegu dwy gic gosb arall.

Camgymeriad

Ni wnaeth y gic i ailddechrau’r chwarae gan Aberteifi gyrraedd y deg metr. Dyna sgrym ar ganol cae i Aberaeron. Danfonwyd y bêl drwy’r dwylo o’r sgrym at Dafydd Llewelyn ar yr asgell dde. Mi welodd ei ffordd yn glir i guro’r amddiffyn a sgorio wrth ymyl y pyst gan adael trosiad hawdd i’r canolwr, Rhodri Jenkins. Ciciodd Rhodri gic gosb arall cyn hanner amser i adael y dorf gartref, niferus a swnllyd yn ddigon bodlon gyda’r sgôr yn 19 – 0.

Chwarae da i mewn i’r gwynt

Bu disgwyl i Aberteifi gymryd mantais o’r gwynt yn yr ail hanner gan gadw pwysau ar amddiffyn Aberaeron. Yn groes i’r disgwyl, Aberaeron fu eto yn ymosod ac fe’u gwobrwywyd trwy gais gan Rhodri Jenkins wrth iddo godi’r bêl rydd wrth ochr sgarmes a brasgamu’n gryf drwy’r amddiffyn tuag at y llinell gais i sgorio cais arbennig.

Y blaenwyr yn cario’n gryf

Cadw’r pwysau wnaeth Aberaeron gan atal unrhyw fygythiad gan olwyr Aberteifi. Roedd y tîm cartref yn ennill tir gyda’r blaenwyr Ceri Davies, Bruce Gaskell, Rhys “Bwtch” Jones, Will James a Hefin Williams yn croesi’r llinell fantais yn gyson gan godi aml i floedd oddi wrth gefnogwyr Aberaeron.

O’r diwedd, gyda’r gêm yn ei chwarter olaf mi wnaeth yr ymwelwyr dorri trwy amddiffyn y tîm cartref ac mi sgoriodd Alun Jenkins gais yn y cornel. Bu Shaun Leonard yn llwyddiannus gyda’r trosiad.

m gystadleuol

Bu hon yn ornest gystadleuol iawn gyda phob chwaraewr yn rhoi o’i gorau. Rhaid bod yna nifer o gyrff wedi dioddef drannoeth wedi’r holl daclo a wnaed gan y ddau dîm. Rhaid hefyd canmol y dyfarnwr yn yr ornest hon. Enwid y bachwr, Rhys “Bwtch” Jones yn chwaraewr y gêm. Mi wnaeth daflu’n daclus i’r leiniau a hefyd roedd ei waith ar hyd y cae a’i gario ffrwydrol yn werth ei weld.

Am y tro, mae Aberaeron ar frig y tabl ond mae’n bosib y bydd canlyniadau eraill o fewn yr wythnosau nesaf yn newid y sefyllfa.

Bydd gêm olaf y tymor yn y gynghrair i lawr yn Hwlffordd y Sadwrn nesaf.