Cywydd yr hen Ysgol newydd

Rhyddhau ffilm i gefnogi’r ymgyrch i gyd-brynu Ysgol Cribyn

Euros Lewis
gan Euros Lewis
Ianto-Frongelyn-1

Ianto Frongelyn

Ysgol-Cribyn-x

Ysgol Cribyn a chanolfan newydd i Ddyffryn Aeron

Screenshot-11

Un o’r plant olaf i gael addysg yn Ysgol Cribyn oedd Ianto Jones – Ianto Frongelyn. A nawr, 15 mlynedd wedi cau’r ysgol mae cywydd o’i waith yn cael ei ryddhau ar lun ffilm Facebook ac Instagram – rhan ganolog o ymgyrch cymdogaeth Cribyn i’w phrynu.

Medd Ianto ‘Pan ofynwyd i fi a fydden i’n barod sgwennu cywydd i gefnogi’r fenter, ges i bach o ofan i ddechrau. Mae’n dipyn o her. Ond wedyn, o weld gymaint yn cyfrannu chwŷs eu llafur i wneud yn siŵr fod yr ysgol yn sefyll yn ased i gryfhau’r Gymraeg a’i chymdeithas, doedd dim dewis ond mynd amdani!’

Fel y’n ni’n gw’bod, bardd sy’n prysur gwneud ei farc ar y llwyfan eisteddfodol yw Ianto. Yn 2021 enillodd gadair eisteddfod sir Clybiau Ffermwyr Ifainc Ceredigion a steddfod genedlaethol y mudiad hefyd! Ac eleni, wrth i Alaw Fflur ddod â choron Eisteddfod Cymru nôl i CFfI Felin-fach daeth yntau â’r gadair nôl o Fôn i gyflawni’r dwbwl i’r clwb.

Bellach, mae’r mab ffarm a chyn-fyfyriwr Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ddisgybl brwd yn nosbarth cynganeddu Tafarn y Vale, Dyffryn Aeron, dan arweiniad y Prifardd Gwenallt Llwyd Ifan. ‘Braf yw edrych yn ôl ond mae ’da ni le i edrych ymlaen yn hyderus’ yw neges y cywydd. Wrth i Ianto ei darllen yn gyhoeddus am y tro cyntaf yng nghyfarfod lawnsio ymgyrch yr ysgol teimlwyd gwefr yn rhedeg drwy’r dorf fawr wrth iddo yngan y gwpled glo…

‘Yn sŵn yr oes bresennol

fe fydd llawenydd yn ôl.’

Er mor bwysig fydd arian ar gyfer llwyddiant ymgyrch Ysgol Cribyn, pan ddaw’r ‘llawenydd yn ôl’ un gair yn unig fydd yn disgrifio cyfraniad y cywyddwr ifanc. Amhrisiadwy!

<<<>>>

Y CYWYDD: YSGOL CRIBYN

I bawb yr oedd un lle bach

unwaith yn llawn cyfrinach;

yng Nghribyn, roedd hyn o hwyl

yn unol â’i byw annwyl;

hwyl o hyd i’w halaw hi,

a’i geiriau yn rhagori;

nes i’r oes ei herio hi

a dwyn hen glo amdani.

Heddiw y mae gwahoddiad

i fynnu oes o fwynhad

i’r ysgol hon; cawn gronni

hyn o rodd i’w hagor hi,

rhoi yn ôl am aur ein hiau,

a rhoi i’n hen foreau.

Yn sŵn yr oes bresennol

fe fydd llawenydd yn ôl.

(Ianto Jones)

I wylio ffilm y cywydd ewch i dudalen Facebook / safle Instagram Ysgol Cribyn.

I gefnogi Ymgyrch Ysgol Cribyn drwy brynu cyfranddaliadau yn y gyd-fenter ymwelwch â www.ysgolcribyn/cy.cymru neu ebostwch ysgolcribyn@gmail.com .

Dweud eich dweud