Er ar nodyn chwerw-felys, braf yw cyhoeddi bod yna ddigwyddiadau ar y gweill i ddathlu bodolaeth Ysgol Gynradd Dihewyd. Bydd yr Ysgol a sefydlwyd yn 1876 yn cau ei drysau am y tro olaf ar ddiwedd y flwyddyn.
Ar drothwy’r flwyddyn newydd bydd disgyblion presennol yr ysgol yn gwneud eu ffordd i lawr y dyffryn i’r ysgol ardal newydd sef Ysgol Dyffryn Aeron.
Roedd yna asbri ymysg y disgyblion, athrawon a’r gymuned bod angen nodi’r achlysur a dathlu’r hyn mae’r ysgol wedi rhoi i’w disgyblion ac i’r pentref ar hyd y blynyddoedd.
Rydym fel cymuned wedi dod ynghyd i drafod syniadau ac mae yna gynnwrf am yr hyn sydd ar waith.
Byddwn yn dechrau gyda Chyngerdd a noson hwyliog i hel atgofion -Cynhelir y Gyngerdd nos Iau’r 27 o Fehefin am 7:30 yr hwyr yn Neuadd Dihewyd.
Yn y cyfamser rydym yn gwahodd unrhyw cyn-ddisgyblion byddai’n dymuno cymryd rhan boed yn eitem unigol neu mewn grŵp i fynychu’r cyfarfod cychwynnol ar yr 8fed o Fai am 7:30, eto yn y Neuadd. Dyma’r noson byddwn yn llunio eitemau’r gyngerdd!
Mae hwn wir yn ddigwyddiad cymunedol ac edrychwn ymlaen yn fawr i weld hen wynebau, a’r rhai cyfarwydd yn ymuno â ni!
Y 8fed o Fai yn Neuadd Dihewyd am 7:30yh – Cyfarfod eitemau’r gyngerdd. Dewch yn llu.