Gwag oedd Dyffryn Aeron pnawn ’ma, wrth i gefnogwyr pêl-droed Felinfach heidio lawr am ddyffryn Teifi. Y gêm fawr wedi’r fuddugoliaeth campus yn erbyn Bont yn Llambed ganol wythnos.
Parc Emlyn, Castellnewydd Emlyn oedd y lleoliad, a thîm y Preselau, Crymych, oedd y gwrthwynebwyr, wrth i Felinfach drio wneud lan am y golled yn erbyn Ffostrasol ar y Cae Sgwâr, Aberaeron, ar ddydd Llun Y Pasg.
Fe ymgasglodd torf sylweddol at ei gilydd i wylio ffeinal Cwpan Coffa Dai Dynamo. Dywedaf ddim fod yna gefnogwyr ‘ultra’ yn Nyffryn Aeron sy’n dilyn Felin, fel y gwelir gan glybiau ar gyfandir Ewrop, ond ‘rwyn edmygu’r ymdrech mae’r cefnogwyr yn ei baratoi i greu awyrgylch yn y gêmau terfynol yma. ‘Rydych yn chwarae eich rhan, mae hynny’n sicr.
Fe ddechreuodd Felinfach y gêm yn dda, ac fe sgoriodd Joe Jenkins ar ôl pedair munud yn unig o chwarae i roi ei dîm ar y blaen, wedi cymorth gan Owain Dafydd.
Fe reolodd Felinfach gweddill yr hanner cyntaf, ac ni orfodir i Tomos James wneud llawer yn y gôl. Fe gafodd Aaron Player, gôl-geidwad Crymych, llawer fwy i arbed, ac fe allai wedi fod yn ddwy neu dair yn rhwydd cyn i’r chwiban chwythu am hanner amser. Arbedodd un cynnig yn arbennig efo’i draed tua hanner ffordd drwy’r hanner.
Does dim dwyaith taw Felin gafodd y gorau o’r ail hanner yn ogystal, a phrin oedd y cyfleuon i dîm Crymych. Yn wir, ’dwi ddim yn meddwl iddynt ennill yr un gic gornel yn yr ail hanner, heb sôn am ddod yn agos i sgorio.
Ni chafodd y dyfarnwr unryw achos i fynd i’w boced yn yr hanner cyntaf, ond bu raid dangos pedair cerdyn melyn i chwaraewyr Crymych yn ystod yr ail. Rhwystredigaeth yn dangos ei hun.
‘Roeddwn yn y man iawn ar yr amser iawn unwaith eto, wrth i gic rydd dwyllo golwr Crymych ychydig dros wedi 70 munud ar y cloc. Mae’n anodd dweud o’r ongl yma, os oedd y bêl dros y llinell cyn i Rhys Jon James sicrhau ei bod yn taro’r sach winwns. Yn ôl app Pêl-Droed Cymru, mae’n ei hawlio ta beth, a dyna beth sydd i’w gyfrif.
‘Doedd dim dod ’nôl i Grymych efo ugain munud i fynd, ac ennillodd Felinfach tlws Dai Dynamo yn weddol gyfforddus erbyn y diwedd, ac ’roedd dim ail-afael yn y tlws ennillodd Crymych yn 2022 i ddigwydd pnawn ’ma.
Braf gweld Beti Davies yn cyflwyno y tlws goffa i gapten Felinfach, Gwion Davies, efo’r gymeradwyiaeth yn un fawr i’r ddau glwb a’r swyddogion ar ddiwrnod braf o Fai.
Perfformiad arbennig, a buddugoliaeth haeddianol i Felinfach, wrth iddynt ddod adref a’r cwpan i Ddyffryn Aeron.
Llongyfarchiadau i bawb sy’n ymwneud efo’r clwb, ac mae rhaid cofio fod chwech o garfan Felinfach heddiw ond yn 17 oed. Dyfodol disglair o’i blaenau ‘rwyn siwr.