Cwpan Cymru yn dod i Felinfach

Diwrnod hanesyddol i Glwb Pêl-droed Felinfach

gan Ianto Jones

Mae’n argoeli i fod yn ddiwrnod a hanner yn Nyffryn Aeron ddydd Sadwrn nesaf (27.07.24) wrth i Glwb Pêl-droed Felinfach ymddangos yng Nghwpan Cymru am y tro cyntaf yn ei hanes.

Sicrhaodd y bois eu lle yn y gystadleuaeth hon eleni ar ôl ennill Cwpan Dai Dynamo y tymor diwethaf.

Bydd Felinfach yn wynebu Chirck AAA yn y rownd ragbrofol gyda’r gic gyntaf am 14:00 yng Nghae’r Felin. Mae’r gwrthwynebwyr wedi ennill Cwpan Cymru bum gwaith yn y gorffennol gan ddod o fewn trwch blewyn i guro Pencampwyr Cymru, y Seintiau Newydd, y llynedd.

Dewch draw i gefnogi’r Clwb ar y diwrnod hanesyddol hwn. Pob lwc, bois!