Y Ffermwyr Ifanc yn rhoi yn hael i elusennau

Cyflwyno sieciau ar ddiwedd blwyddyn lwyddiannus

gan Alaw Jones
IMG_5833

Llun o aelodau’r clwb yn cyflwyno siec i deulu Penlanlas ar ran elusen Ysbyty Arch Noa

IMG_5832

Llun o’r aelodau yn cyflwyno sieciau i elusen Beiciau Gwaed Cymru

Cyflwyno sieciau

Yn ystod cyfarfod cyffredinol C.Ff.I. Felinfach, cyflwynwyd sieciau i ddwy elusen – Ysbyty Arch Noa ar gyfer Gymanfa Rali Felinfach 2023 a Beiciau Gwaed Cymru (elusen y flwyddyn y clwb 2023-24).

Roedd yn braf cael cynrychiolaeth gan deulu Penlanlas ar ran Ysbyty Arch Noa, sy’n elusen agos iawn i galon y teulu a braf i weld Anest fach yn llawn bwrlwm, ynghyd â Vicky o Beiciau Gwaed Cymru.

Mewn cymuned wledig fel Dyffryn Aeron rydym fel clwb yn gwerthfawrogi eich haelioni’n fawr iawn boed drwy gymanfa, cwrdd diolchgarwch neu ganu carolau.