Llwyddiant eto i Alaw

Alaw Fflur Jones yn ennill dwy wobr ym Mhontypridd

Haydn Lewis
gan Haydn Lewis
Screenshot_20240813-212819
Screenshot_20240813-212711

Bu’n wythnos gofiadwy i Alaw Fflur Jones o Felinfach ar faes Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf.

Ar y Sul cyntaf mi wnaeth ennill gwobr Tlws yr Ifanc, ac yna ar ddydd Gwener mi gipiodd Gwobr Goffa Meic Povey am y dramodydd gorau o dan 25.

Felly, mi oedd yna enillydd y ddrama ar Faes YnysAngharad!

Llongyfarchiadau mawr i ti Alaw.