Felinfach ddim yn gweld sêr

Felinfach 3 Sêr Dewi 2

Aled Bont Jones
gan Aled Bont Jones

Ail fuddugoliaeth o’r tymor i Felinfach

Ar noson hyfryd o Awst o flaen torf lluosog o thua 140 yn gwylio, fe gurodd Felinfach ei gwrthwynebwyr o Landdewi Brefi echnos o 3-2.  Gôl dda gan Cameron Miles yn rhoi’r tîm cartref ar y blaen ar ôl tua hanner awr, oddi wrth bas Joe Jenkins, efo’r Felin yn chwarae tuag at yr ystafelloedd newid yn yr hanner cyntaf.

Fe sgoriodd Rhodri Morgan i’r Sêr i unioni pethe o fewn tua ugain munud o’r ail hanner, ond dyma Cameron Miles yn adennill y blaenoriaeth i’r Felin o fewn pen dim.  Pas gan Dan James, sydd ’nôl ar Gae Chwarae Felinfach wedi cyfnod diweddar ym Mhenparcau, yn sicrhau ail gôl Cameron efo taran o ergyd i mewn i’r rhwyd.

O fewn cwpwl o funudau’n unig dyma Ben Davies yn gwibio drwy amddiffyn Sêr Dewi o’r asgell ac yn croesi’r bêl i’r cwrt cosbi.  Dim lawer o obaith gan ei gôl-geidwad i’w hatal wrth iddo roi ei droed mas i’w chyffwrdd, ac ’roedd Rhys Williams yn y man iawn ar yr adeg iawn i’w wneud yn dair.  Yn union fel minnau efo fy nghamera fel y gwelir efo’r fideo uchod. ‘Gêm ofyr?’  Nagoedd wir!

‘Roedd gan Sêr Dewi ddigon o egni ac amser i ddod ’nôl mewn i’r gêm, ac fe’i gwobrwywyd wrth i Rhodri Morgan gipio’i ail o’r gêm wrth i’r bêl fynd dros Tomos James, gan ei adael yn bendramwnwgl rhwng y pyst.  Diweddglo cyffrous o’n blaenau felly efo dal chwarter awr o’r gêm yn weddill.  Ond, fe ddaliodd Felin mas hyd y diwedd i sicrhau ail safle yn y gynghrair, tu ôl i Lambed ar wahaniaeth goliau.

Mae gemau rhwng Felinfach a Sêr Dewi wedi creu tipyn o ddiddordeb yn y ddau bentref dros y blynyddoedd, ac fe wnaeth hyn i fi feddwl pa bryd gyfarfu’r clybiau am y tro cyntaf? Gallaf bron fod yn sicr taw tymor 1986/87 oedd hi, pan oedd y ddau’n aelodau o’r ail adran o Gynghrair Ceredigion.  Fe gafodd Sêr Dewi lwyddiant ysgubol y tymor hwnnw wrth iddynt ennill bob gêm gynghrair i gipio dyrchafiad i’r adran gyntaf.  Fe chwaraewyd y gêm gyntaf yn Llanddewi Brefi yn go gynnar yn ystod y tymor, efo’r dewin, a’r diweddar, David ‘Dias’ Williams yn sgorio’r cyfan i’r tîm cartref yn ei buddugoliaeth o 4-2.  Robin Williams yn bachu’r ddwy dros Felin.  Does gen i ddim manylion pellach am yr ail gêm chwaraewyd dros adeg y Nadolig, ond colli o 2-3 oedd tynged Felinfach y diwrnod hwnnw.  Wrth i Sêr Dewi ddathlu ei pencampwriaeth o’r ail adran, fe fodlonodd Felinfach efo’r seithfed safle.