Y Ddarbi Lleol!
Mae’n debyg fod y term darbi lleol (local derby) yn tarddu o gemau “pêl-droed” o ryw fath fu rhwng timau yn cynrychioli plwyfi Eglwys yr Holl Seintiau ac Eglwys Sant Pedr, yn ninas hynafol Derby. Tref oedd hi’r adeg hynny wrth gwrs, ond fe ellid dadlau fod tref cyfagos Ashbourne yn hawlio’r term i raddau wrth iddynt ddal i gynnal gêm traddodiadol iawn ei ffordd ymysg y trigolion lleol. Ryw fath o gymysgedd o gemau pêl-droed, rygbi ac hyd yn oed cnapan fyddai’r gemau cyntefig yma. Dim llawer o reolau, dim ond fod y “bledren mochyn” rywsut yn mynd drwy porth un o’r Eglwysi, efo chanlyniad gwaedlyd yr olwg ar lawer un o’r gwrthwynebwyr.
Beth bynnag yw’r tarddiad, i ni fan hyn yn Nyffryn Aeron, y ddarbi lleol ydy gêmau cystadleuol iawn rhwng clwb pentref Felinfach a thîm tre’ Llambed. Llawer i un wedi cynrychioli’r ddau glwb dros y degawdau, efo cymysgedd o deimliadau wedi gemau rhwng y ddau glwb. Clwb weddol llwyddianus fu’n Llambed dros y blynyddoedd, efo tlws pencampwriaeth Cynghrair Ceredigion yn ffeindio’i ffordd i’r dre’ farchnad ar lannau’r Teifi ar sawl achlysur. Efo Felinfach yn glwb fwy diweddar, nid yw’r freuddwyd hynny eto wedi cyrraedd y dyffryn, ond efo dechreuad aruthrol o dda’r Felin y tymor yma, pwy â ŵyr beth fydd tynged y tlws yn agosach i fis Mai. Ar Gae Chwarae Felinfach neithiwr, dyma’r rownd diweddaraf o gêmau rhyngddynt efo timau cyntaf y ddau glwb yn cwrdd a’i gilydd am y tro cyntaf y tymor yma.
‘Roeddwn yn darogan gêm agos tu hwnt rhwng y ‘dynion llaeth’ a’r ‘piod.’ Y ddau glwb wedi dechrau’r tymor ar dân, a’r ddau wrth gwrs yn awyddus i roi un dros y llall fel mater o falchder lleol. Crwtyn ifanc 16 oed, Hugo Alberski-Douglas yn rhoi’r ymelwyr ar y blaen wedi chwarter awr yn unig. Dim ond ei drydedd gêm i dîm hŷn Llambed, ac mae wedi gwneud ei farc yn barod efo dwy gôl ac un bas gymorth i’w glwb. Hir yw bob aros serch hynny, ac ‘roedd croesiad arbennig Joe Jenkins ar yr ochr chwith yn berffaith i beniad Cameron Miles wrth iddo unioni’r sgôr ryw ddwy funud wedi’r amser ychwanegol o’r hanner cyntaf. Y Felin yn teimlo’n hapusach, ac yn hyderus, wrth yfed ei lluniaeth haeddianol yn y ‘stafelloedd newid.
Mae gôl yn medru newid pethau’n llwyr i dîm ar y cae, ac er i Lambed deimlo’n flin ei bod heb fynd mewn ar hanner amser ar y blaen, fe ysgogodd y gôl yma Felinfach i fwrw ati am fwy ohonynt yn yr ail hanner. Ni siomwyd y cefnogwyr lleol, ac ‘roedd Joe Jenkins ar ben ei ddigon wrth i’w groesiad ef ddod o hyd i esgid Rhys Jon James i droi’r sgôr yn wyneb-i-waered o blaid Felinfach. Ond mae Llambed yn dîm da, yn dîm da iawn i ddweud y gwir, efo cymysgedd o’r ifanc a phrofiadol yn ei carfan. Rhaid oedd sgorio gôl arall i sicrhau’r pwyntiau llawn yn y gêm yma.
Pwy arall ond y dewin, Rhys Williams, oedd yn y lle iawn i roi’r Felin ymhellach ar y blaen efo llai nag ugain munud yn weddill. Golwr Llambed, Heulyn Jones, yn methu clirio’r bêl yn lân efo Rhys yn taro pêl wyrthiol i gefn y rhwyd o ongl lletchwith. Bu’r dathlu rhwng y chwaraewyr ar ôl y gôl yma’n brawf o’r undeb brawdorol sy’n perthyn i’r clwb ar hyn o bryd. Mae’r fideo bach uchod yn profi hyn.
Ugain munud hir fu hi efo’r nos yn dechrau tynnu mewn yn araf bach. Tynnu mewn at ei gilydd oedd swyddogaeth amddiffynwyr Felinfach hefyd, wrth i gapten Llambed, Scott Davies, ddod a’i dîm ‘nôl mewn iddi efo dal deng munud o leiaf ar oriawr y dyfarnwr yn weddill. Hir yw bob aros wedes i ynghynt, ac felly oedd hi tan ddiwedd y gêm yma yn yr ail hanner yn ogystal. Ond ‘roedd digon o betrol yn nhanc Felinfach i gadw fynd tan y chwiban olaf yna i sicrhau 15 pwynt ar frig yr adran.
Fel gemau darbi eraill ar draws y byd, mae hon yn gêm bwysig i’r ddau glwb, ond beth oedd canlyniadau y tro cyntaf iddynt gwrdd yn y gynghrair? Oherwydd fod tîm cyntaf Llambed yn chwarae yn yr adran gyntaf pan sefydlwyd Felinfach yn 1980, bu raid i’r pentrefwyr fodloni ar chwarae’r eilyddion yn ei tymor cyntaf ar ôl i’w derbyn i’r ail adran. Profodd honno’n dymor lwyddianus i Lambed wrth iddynt orffen yn ail tu ôl i glwb fu’n cynrychioli’r Clwb Athletau yn Aberystwyth – Aber A.C. Tair gêm yn unig gollwyd drwy’r tymor, ond ‘roedd un ohonynt yn erbyn Felinfach yng nghanol mis Rhagfyr. Felinfach yn fuddugol o 2-0, wedi iddynt golli’n go drwm yn ei herbyn o 5-1 ar ddechrau mis Hydref yn Llambed. Emyr Thomas, Bill Owen, Alun Williams, Vaughan Lloyd a Julian Lovell yn rhwydo i’r buddugwyr y diwrnod hynny, efo unig gôl Felinfach yn dod oddiwrth Elfyn Jones. Yn anffodus, does gen i ddim manylion pellach am sgorwyr Felinfach yn ei buddugoliaeth hwythau adref ar y clos.
‘Rwyn fawr obeithiol fydd “Oh! What a finish!” yn disodli “They think it’s all over! It is now!” fel y dywediad orau ar ôl gôl hollbwysig ar y cae pêl-droed o hyn ymlaen!!