Y Mecryll wedi ffrio!

Felinfach 6 Cei Newydd 1

Aled Bont Jones
gan Aled Bont Jones

Y Felin yn pysgota goliau ar gae’r chwarae.

Fe adnabyddir cymuned Cei Newydd am amryw o wahanol gysylltiadau yn ymwneud efo’r môr.  Adeiladu llongau, pysgota, twrwstiaid ar y tywod a dolffiniaid yn neidio’n hapus pe byddwch mor lwcus o ddod ar eu traws.  Mae’n enwog am rannau helaeth o Dan y Wenallt (Under Milk Wood), fel y sîn gyntaf oll mewn ffilm o’r enw ‘The Constant Husband’ ac hefyd yn ardal sy’n nodweddiadol am linach hanesyddol fy nheulu.  Ydy, mae Cei Newydd a’r cyffuniau yn agos at fy nghalon.

Ond, yn agosach adref, ac yn agosach i fy nghalon lle mae’r bêl gron yn y cwestiwn, teithio i Felinfach wnaeth tîm cyntaf Cei Newydd Sadwrn diwethaf i wynebu’r clwb sydd ar frig Cynghrair Ceredigion.  Talcen caled felly’n disgwyl ‘Y Mecryll.’  Mae hanes diddorol dros ben i bêl-droed lawr ar y Cei.  Hanes clwb llwyddiannus dros ben ychydig dros ddegawd ‘nôl, ac hefyd hanes clwb bu am gyfnod byr cyn y Rhyfel Byd Cyntaf yn medru hawlio Sbaenwyr a Groegwyr fel aelodau o’i carfan.  Ond gan fod tref Cei Newydd ddim yn rhan o dalgylch Dyffryn Aeron, stori at ddant trigolion y dref glan môr ydy honno.

‘Rwyn cyfri Cei Newydd fel rhyw fath o glwb ‘yo-yo’ pêl droed lleol.  Yn rhy dda i’r ail adran, ond weithiau ddim digon da i herio clybiau gwell yr adran gyntaf.   Ar ôl perfformiad rhagorol y Felin ar domen ei hunain dydd Sadwrn, anodd fydd hi i unrhyw glwb herio Felinfach y tymor hwn.  Ond mae pêl-droed hefyd yn gêm sy’n medru newid yn gyflym.  Diwrnod da o ran tywydd, ac o ran ffilmio ychydig o’r uchafbwyntiau o’r gêm.  Un peth sy’n sicr yw bod bois Felinfach yn benderfynol o gadw fy hunan yn effro drwy gydol y gêm.  Mae yna dalent aruthrol yn perthyn i’r clwb ar hyn o bryd, ac mae canlyniadiau’r tîm cyntaf yn llawn haeddu’r safle ar frig yr adran.

Yn chwarae tuag at ben gwaelod Bro Henllys yn yr hanner cyntaf, gymerodd hi ddim yn hir i Rhys Williams fachu gôl arall i’r Felin ar ôl wyth munud o’r chwarae yn unig.  O fewn deng munud dyma fe eto’n dod o hyd i’r rhwyd gan adael gôl-geidwad Cei Newydd, Jack Chetwynd, heb le i droi o flaen ei gôl.  O fewn tair munud, dyma hi’n dair, efo Rhys Jon James yn rhwydo o gic gornel fethodd Cei Newydd ei chlirio. Efo’r Felin yn rhedeg bant â pethe, mynd bant aeth un o chwaraewyr ganol cae Cei Newydd.  Wrth iddo gerdded bant o’r cae ar ôl derbyn cerdyn melyn, bu’n dadlau penderfyniad y dyfarnwr, a bant ag ef am weddill y gêm.  Mynydd i’w ddringo felly i’r gwrthwynebwyr erbyn hyn.  Bu digon o amser yn weddill i Cameron Miles saethu taran o ergyd tuag at gôl Cei Newydd, er i’r gôlgeidwad cyffwrdd ei fysedd ar y bêl cyn glanio rhwng y pyst a’r rhwydi.  Dyma hi’r gôl yn y fideo uchod.

‘Roedd Felinfach yn feistri dros Cei Newydd wrth i’r chwiban chwythu am hanner amser.  Ond mae yna ddygnwch yn perthyn i’r Mecryll, ac er fod y gêm mwy neu lai drosodd fel gornest, nid oedd y tîm mewn gwyrdd am fynd adref heb gyfrannu rywbeth tuag ati.  ‘Rhaid fod bois Felinfach dal yn mwynhau’r egwyl wrth i gyn chwaraewr y glas a du, Jac Crompton, roddi rywfaint o hunan barch i Gei Newydd drwy sgorio’n gynnar iawn yn yr ail hanner drwy rwyd Steffan Williams yn y gôl.  Ond prynhawn Felinfach, ac yn enwedig Cameron Miles, oedd hon.  Bu trosedd yn y cwrt cosbi yn ddigon iddo daro’r bêl yn gelfydd o’r smotyn am ei ail, ac fe alluogodd pas Rhys Williams iddo am ei drydydd – a’i ‘hat-trick’ – sicrhau’r chweched i’r Felin, a phump pwynt o fantais ar frig yr adran ar ôl i ganlyniadau eraill fynd o’i plaid.

Llongyfarchiadau mawr i Felinfach ar fuddugoliaeth haeddianol arall, ond ‘rwyn obeithiol fe ddaw dydd Cei Newydd cyn bo hir unwaith eto.  Anodd credu weithiau fod chwaraewyr o’r safon uchaf fel John Charles, Ivor Allchurch a Trevor Ford wedi dangos eu sgiliau ar Barc Arthur un tro.  Fe allaf ychwanegu talentau pêl-droedaidd Gareth Edwards a’r diweddar Barry John i’r rhestr yna, ynghyd â Miguel Goldaracena ac Isaac Aqueche!  Pwy?  Stori arall ydy honno!