Dechreuad da i’r tymor

Aberaeron 61 – 10 Cwins Doc Penfro

Haydn Lewis
gan Haydn Lewis
DilwynRhys Hafod

Seren y gêm – Dilwyn Harries

Yn ôl y drefn arferol yn ystod y tymhorau diwethaf, chwaraeir rownd gyntaf Cwpan Sir Benfro ym mis Awst.

Yn ymweld â Pharc Drefach dydd Sadwrn diwethaf oedd Cwins Doc Penfro. Ofer bu eu taith ar ddiwrnod braf o haf ac aethant adref yn waglaw wedi i’r bechgyn lleol chwarae rygbi pert ag effeithiol, gan sgori naw cais.

Dyma’r sgorwyr dros Aberaeron: Mathew Harries, Owain Bonsall, Dafydd Llewelyn (dwy gais), Dilwyn Harries, Fin Webb, Bruce Gaskell (dwy gais), Osian Davies.

Trosiwyd saith o’r ceisiau gan y cefnwr, Steff (DJ) Jones ac fe drosiodd Mathew Harries ei gais ei hun.

Bydd y gêm gynghrair gynta’r tymor ar Barc Drefach dydd Sadwrn yma, ac mi fydd y Gwylanod yn teithio i Dŷddewi am gêm gyfeillgar.

Dweud eich dweud