Pum pwynt i ddechrau’r tymor

Aberaeron 50 – 25 Llangadog

Haydn Lewis
gan Haydn Lewis
Rhys-Jones-2Rhys Hafod

Rhys Jones, y canolwr ifanc

Dafydd-Llangadog-2Rhys Hafod

Y canolwr Dafydd Llewelyn yn sgori ei gais cyntaf

Sychbant-Tyddewi

Osian Davies yn bygwth amddiffyn Tyddewi

Roedd hi’n ddechreuad da yn y gynghrair i’r clwb rygbi lleol ddydd Sadwrn diwethaf pan wnaethant guro Llangadog ar Barc Drefach.

Hon oedd eu gêm gyntaf Yn Adran 3, Rhanbarth y Gorllewin, Undeb Rygbi Cymru wedi i’r gynghrair gael ei ailwampio. Mae yna edrych ymlaen yn fawr at y tymor eleni, gan fydd Aberaeron yn chwarae yn erbyn timoedd o Gwm Gwendraeth, Dyffryn Aman a Dyffryn Tywi, yn hytrach na thimoedd o berfeddion Sir Benfro.

Dwy gais cynnar

Cafodd y bechgyn lleol ddechreuad da gan groesi’r llinell yn gynnar drwy Dafydd Llewelyn ac Owain Bonsall. Nid oedd y gwrthwynebwyr yn dîm i eistedd yn ôl ac wedi i Dafydd Llewleyn sgori ei ail gais mi wnaeth Llangadog daro’n ôl gyda throsgais.

Cais gyntaf i Rhys yn y gynghrair

Ni fu’n hir cyn i Aberaeron ymestyn eu mantais. Mi groesodd y canolwr ifanc, Rhys Jones am ei gais gyntaf i’r clwb yn y gynghrair. Bu Llangadog yn llwyddiannus gyda dwy gic gosb cyn i Dafydd Llewelyn groesi am gais, gan adael y sgôr yn 31 – 13 ar hanner amser.

Cais cynnar i Langadog

Wedi’r egwyl, mi sgoriodd Langadog eu hail gais, ond roedd hyder y tîm cartref yn uchel ac yn y man, mi wnaeth y blaenasgellwr, Will James groesi am gais yn dilyn gwaith da gan bac y tîm cartref. Sgoriodd Dafydd Llewelyn ddwy gais arall cyn i Langadog ychwanegu  at eu sgôr gyda throsgais cyn diwedd y gêm. Troswyd pum cais gan y maswr, Rhodri Jenkins ac mi gafodd Dafydd Llewelyn ei enwebu yn chwaraewr y gêm.

Er y canlyniad, ni fu’r ornest hon yn hawdd. Roedd Llangadog yn dîm cryf, yn amddiffyn yn gadarn ag yn bygwth torri llinell amddiffyn Aberaeron yn gyson. Felly, roedd ennill pwynt bonws ag atal Llangadog rhag sgori pedair cais yn ymdrech lew gan y tîm cartref.

Bydd gêm nesaf Aberaeron bant yn erbyn Tycroes ar 21ain o’r mis.

Tyddewi 19 – 12 Y Gwylanod

Teithiodd y Gwylanod i lawr i Dyddewi i chwarae gêm gyfeillgar. Mi wnaethant yn dda i gadw’r sgôr yn agos yn erbyn tîm â phrofiad. Sgoriwyd ceisiau gan Dilwyn Harries a Mathew Harries. Bu Llion Williams yn llwyddiannus gydag un trosiad ac mi enwebwyd Dilwyn Harries yn chwaraewr y gêm.

Bydd y Gwylanod yn croesawu ail dîm Hwlffordd i Barc Drefach y Sadwrn yma.

Dweud eich dweud