Ar dy feic!

Clwb Seiclo Dyffryn Aeron 1910

Aled Bont Jones
gan Aled Bont Jones

“Fe awn am dro ar ein beiciau o Ddyffryn Aeron tuag at glannau’r Afon Teifi yn Llanybydder”

Wrth chwilota drwy hen luniau o’r teulu adref, blynyddoedd ‘nôl erbyn hyn i ddweud y gwir, fe ddes i ar draws un llun â dynnodd fy sylw yn syth.  ‘Roedd hwn sicr yn wahanol i unrywun arall o’n eiddo wrth weld grŵp o seiclwyr lleol tu allan i dafarn Cross Hands, Llanybydder, sef tafarn dirwest ar adeg pan dynnwyd y llun.  Un peth oedd yn amlwg, taw grŵp o seiclwyr o ddyffryn Aeron yn dwyn y teitl ‘Mid-Aeron Cycling Club’ o 1910 oedd wedi ymgynnyll, ac yn edrych yn smart iawn yn ei gwisgoedd poblogaidd o’r cyfnod.  Y bechgyn yn ei trowseri a chotiau bob dydd, watsys boced a chap ar eu pennau, tra fod y marched mewn ffrogiau hir ac hetiau fyddai’n fwy addas i’w gwisgo mewn gwasanaeth grefyddol ar y Sul.  Ar y llaw arall, yn llai amlwg oedd y rheswm tu ôl i’r ffaith fod y llun gennym yn y lle cyntaf.  Oedd rhywun o’r teulu yn un ohonynt?  Mwy na thebyg, ond ddof i byth i wybod hynny ragor.  Bu’r llun yn fy meddiant ers tro byd, ond dim ond yn ddiweddar iawn ddes i o hyd i fwy o wybodaeth amdano.  Dyma’r stori tu ôl i’r llun arbennig yma o hanes y dyffryn a’r cyffuniau.

Ar hap a damwain, wrth ymchwilio am ryw hanesyn neu gilydd yn yr hen bapurau lleol, fe ddes i ar draws wybodaeth cyflawn o’r digwyddiad yn y Welsh Gazette 7fed o Orffennaf 1910.  Dyma ddyfynu’r papur.

‘Vale of Aeron’

“Cycling Trip – The annual cycling trip, which is finding an important place in the calendar of the cyclists of the Vale, came off on Saturday last.”

Dydd Sadwrn yr 2ail o Orffennaf fyddai hyn, ac fe ddaeth tua deugain o seiclwyr ynghyd at ei gilydd yn Temple Bar i ddechrau’r daith am ddau o’r gloch y pnawn.  Aethpwyd ar hyd hewl Cribyn, cyn symud ymlaen at Lanwnen ac oddiyno ar hyd y ffordd tuag at Llanybydder.  Ar ôl tynnu’r llun yma fe ymwelodd a’r parti efo’r Ysbyty Sanitorium, lle eu croesawyd gan y brif feddyg, Dr. George Basil Doyne Adams.  Brodor o Wlad-yr-Haf yn wreiddiol, bu Dr. Adams yn ei tywys o gwmpas yr adeilad yr adnybyddir fel cartref nyrsio Alltymynydd heddiw.  Wedi’r daith, fe ddychwelodd y parti i westy’r Cross Hands, lle ‘roedd lluniaeth yn ei disgwyl wedi ei baratoi gan y perchnogion, Mr. & Mrs. Oakley.

Yn ychwanegol i’r pryd bwyd, mi fu rhai o’r seiclwyr yn arddangos ei dawn gerddorol o fewn muriau’r ddawnsfa eang Cross Hands.  Yr unawdwyr oedd Miss Mima Jones, Cwmere; Mr. Jack Thomas, Gelli; Mr. Tom W. Jones, Aldergate a Mr. Tom Davies, Dremddufawr.  Fe gynigiodd Mr. Jack Davies, Ffatri Cwmcafan, ag eilwyd gan Miss Evans, Athrawes ysgol Pennant, bleidlais o ddiolch i Mr. & Mrs. Oakley am ei croeso cynnes.  Cym ymadael a’r wledd, fe ganwyd Hen Wlad Fy Nhadau, efo Mr. Tom Davies yn ymgymryd a’r unawd.  O’r Cross Hands, fe ymadawodd y parti am Lambed, cyn ymweld â Llyn Pencarreg, cyn bwrw am adref.

Wrth orffen yr adroddiad, fe nododd y gohebydd y darn canlynol.

“This was the third annual gathering, and the need of such is indisputable in a rural district; where the amenities of life are not so evident as in populous centres.”

Taith fach i gofio felly, fel y brofir yn y llun, wedi diwrnod llawn hwyl ymysg trigolion y dyffryn a’r cyffuniau ar hewlydd oedd bryd hynny efo’r un car yn agos i’r lle.  Dim ond y ceffyl a’r cert fydde’n ei gwynebu ar y ffordd.  Ond pam teithio i Lanybydder, ac i westy’r Cross Hands yn bennaf?  Mae’r ateb efo gwreiddiau Mrs. Oakley.  Walter a Mary Oakley oedd yn rhedeg Gwesty Dirwest Cross Hands, Llanybydder.  Y wraig fwy na thebyg oedd yn ymwneud fwyaf efo’r gwesty, gan fod ei gŵr yn fwtler ym Mhlasdy Highmead, ar gyrion y pentref ar ochr Llanwenog o’r plwyf.

Cafodd ei geni fel Mary Howells yn 1861, yn ferch i Samuel a Margaret Howells o Brynog Lodge.  Ym 1871, fe ymgartrefi’r teulu yn y Lloyd Jack Arms, sef Brynog Arms erbyn heddiw.  Galwedigaeth ei thad oedd tafarnwr a saer maen.  Ganwyd nifer o blant i’r linach yma o deulu’r Howells yn Ystrad, efo lan hyd at tua ddeg i gyd.  Bu wyth ohonynt yn byw efo’i rhieni yn y Lloyd Jack Arms.  Erbyn 1881, fe symudodd y teulu drws nesaf i Ystrad House, lle gariodd ei thad ymlaen fel saer maen.  Wrth fynd allan i’r byd mawr i chwilio am waith, fe ymgemerodd Mary swydd fel cogyddes ym mhlasdy Highmead, ac yno mae hi yn 1891, o dan gyflogaeth y Cyrnol Herbert Davies-Evans.  Ryw dro rhwng 1891 ac 1894, fe ymunodd gŵr o’r enw Walter Oakley a’r plas a’i gyflogi fel bwtler.

Cafodd Walter Oakley ei eni mewn plwyf bach o’r enw Little Munden yn Swydd Hertfordshire, ychydig dros ugain milltir i’r dwyrain o dref Luton, ym 1867.  Yn un o chwech o fechgyn, garddwr oedd ei dad, ac bu sicr yn byw adref am o leiaf yr ugain mlynedd cyntaf o’i fywyd.  Erbyn 1891, ‘roedd yn wâs personol yn ardal Marylebone o Lundain.  Yn wir, ‘roedd ei gartref yr ochr draw i ble leolir amgueddfa Madame Tussauds, ac yn byw gerllaw oedd Benjamin ag Ann Evans, sef brawd-yng-nghyfraith a chwaer Mary Howells.  Wyddwn i ddim pa bryd yn union ddaeth draw i Geredigion, ond ar y 12fed o Awst 1894, fe briododd efo Mary Howells yn Eglwys Llanfihangel Ystrad.  ‘Roedd erbyn hynny’n fwtler ar stâd Highmead.  Posib fod y ddau wedi cwrdd efo’i gilydd yn Llundain ryw dro, neu pan ddaeth i gyflogaeth Cyrnol Davies-Evans.  ‘Roedd Mary’n 33 mlwydd oed pan priodwyd, efo Walter thua 26 neu 27 mlwydd oed, er fod cofnodion Eglwys y plwyf yn dynodi ei fod ond flwyddyn yn iau na hi yn 32 mlwydd oed.  Mae hynny’n anghywir.

Beth bynnag oedd y gwahaniaeth oedran rhwng y ddau, buont yn briod a’i gilydd am 34 mlynedd, ond ni anwyd unryw blant iddynt.  Bu Walter Oakley yn fwtler yn stâd Highmead am dros ddeugain mlynedd, ond bu hefyd yn weithgar iawn yng Ngwesty Dirwest Cross Hands, oedd dan ofal ei wraig.  Yno bu’r ddau yn cartrefi nes i Mary farw ar 19eg o Ionawr 1928 yn 66 mlwydd oed.  Serch hynny, 67 sydd ar y garreg fedd yn Ystrad.  Fe ymunodd Walter efo hi ar y 30ain o Orffennaf 1931, pan fu farw yn Highmead, efo yntau erbyn hynny’n 64 mlwydd oed, gan adael ei holl eiddo, ac wrth gwrs Gwesty’r Cross Hands, i’w nith drwy briodas, Gwladys Mary Evans, merch Benjamin ag Ann Evans.  Os wnewch chi ymweld efo Eglwys Llanfihangel Ystrad, mae ei carreg yn weddol agos i ddrws fynedfa’r Eglwys.  Yn ffinio mae carreg fedd i ddwy chwaer a brawd Mary, sef Jane, Sarah a David (Dafydd) Howells.

Bu’r llun yma yn eiddo i fy niweddar nhad am gymaint o flynyddoedd, ac er na fydd byth gobaith ddod o hyd i’r sawl sydd bosib yn perthyn ynddo, o leiaf mae’r stori tu ôl i’r llun ei hunan wedi’i ddatrys.

Dweud eich dweud