Y Seler yn serennu ar lwyfan cenedlaethol

Bwyty teuluol o Aberaeron yn cipio’r brif wobr yng Ngwobrau The Food Award Wales eleni

Sion Wyn
gan Sion Wyn

Rhai o griw Y Seler yn derbyn y wobr mewn seremoni yng Nghaerdydd

Un o’r nifer o fariau hardd ym mwyty a gwesty Y Seler, Aberaeron

Golygfeydd hyfryd o’r balconi, sy’n gyfeillgar i gŵn

Tŷ Glyn, prosiect diweddaraf y teulu

Bydd Tŷ Glyn yn parhau i westeio priodasau

Ystafelloedd moethus Tŷ Glyn

Delweddau o sut y bydd tu allan Tŷ Glyn wedi’r adnewyddu

“Bydd Tŷ Glyn yn gartref i seremonïau priodasau yn ogystal â’r wledd priodas.”

Ddwy flynedd yn unig wedi iddynt agor bwyty Y Seler ar ei newydd wedd, cipiodd bwyty teuluol y Thomas’ yn Aberaeron deitl Bwyty’r Flwyddyn Canolbarth Cymru 2024, yn ogystal â Bwyty’r Flwyddyn 2024 ar draws Cymru gyfan. Derbyniwyd y wobr yng Ngwesty’r Coal Exchange yng Nghaerdydd nos Lun, 9 Medi.

Un sydd wedi gwirioni o dderbyn y gwobrau hyn yw Michelle Thomas o dîm Y Seler:

“Mae’r gwobrau yma’n golygu gymaint i ni. Mawr yw’n diolch i bawb a bleidleisiodd drosom. Rydym wir yn gwerthfawrogi cefnogaeth ein cwsmeriaid, ac mae ennill gwobrau gan bleidleisiau’r cyhoedd yn fraint arbennig.

“Rydym yn ffodus iawn fod gennym dîm angerddol sydd bob tro’n gweithio’n galed i roi’r gwasanaeth gorau posib i’n cwsmeriaid. Mae gwaith caled ein tîm yn bendant wedi talu ar ei ganfed.

“Hoffwn ddiolch o waelod calon i’r gymuned leol, ein cwsmeriaid a’n staff am eu cefnogaeth barhaus i ni fel busnes teuluol.”

Nid dyma’r tro cyntaf i’r tîm dderbyn clod am eu hymdrechion, wedi iddynt gipio’r union wobrau gyda The Cellar ychydig flynyddoedd yn ôl.

Ehangwyd ar fwyty The Cellar wedi iddynt brynu a thrawsnewid y Monachty i’r hyn sydd yno heddiw; bwyty, bar a gwesty gwobrwyedig Y Seler, drws nesaf i fenter arall y teulu, bwyty a chlud-fwyd gwobrwyedig Y Celtic, sydd hefyd wedi cael ei adnewyddu yn ddiweddar.

I wybod mwy am Y Seler, neu i fwcio bwrdd a gweld y bwydlenni, cliciwch fan hyn.

Hefyd, mae’n gyfnod hynod o gyffrous i deulu’r Thomas wrth iddynt weithio ar eu prosiect diweddaraf sef datblygu ac adnewyddu Tŷ Glyn, Ciliau Aeron yng nghalon Dyffryn Aeron. Anelir agor y lleoliad yng Ngwanwyn 2025. Bydd y lleoliad yn gartref i briodasau, digwyddiadau a mwy.

Yn ôl y teulu:

“Mae Tŷ Glyn wedi bod yn rhan annatod o hanes cymuned Dyffryn Aeron ers blynyddoedd. Rydym yn gyffrous iawn i ailagor Tŷ Glyn fel canolbwynt i ddathliadau’r dyfodol. Nid ar chwarae bach mae mynd ati i adnewyddu lleoliad o’i fath ond edrychwn ymlaen at yr her, a’ch croesawu yma yng Ngwanwyn 2025.”

Yng nghanol holl gyffro’r datblygiadau, maent yn awyddus i ehangu eu tîm, yn enwedig yn y gegin. Croesawir ceisiadau gan unigolion talentog sy’n rhannu’r un angerdd am fwyd o’r safon uchaf. Mae Llŷr Thomas yn awyddus i glywed gan unigolion fyddai â diddordeb:

“Ymgeisiwch i ymuno â’n tîm yn y gegin. Mae gennym amrywiaeth o swyddi agored a byddai’n grêt clywed oddi wrthoch – cysylltwch â ni ar e-bost, info@tyglyn.co.uk neu wrth ffonio 01545 574 666. Byddai’n grêt clywed gennych.”

Llongyfarchiadau gwresog i deulu Thomas a phawb o dîm Y Seler, ac rwy’n siŵr fod pawb yn edrych ymlaen yn arw iawn tuag at agoriad Tŷ Glyn.

Dilynwch gyfrifon Tŷ Glyn ar Instagram a Facebook am y newyddion diweddaraf, neu gallwch ymweld â’r wefan fan hyn.

Dweud eich dweud