Y Gwylanod yn ennill ar Barc Drefach

Gwylanod 25 – 12 Tîm Datblygu Hwlffordd

Haydn Lewis
gan Haydn Lewis
YnyrRhys Hafod

Y mewnwr addawol – Ynyr Lloyd-Jones

Ifan-HwlfforddRhys Hafod

Ifan Davies yn sgori ei ail gais

Osian-Sychpant-ai-gapRhys Hafod

Osian Sychpant yn creu problem i amddiffynwyr Hwlffordd

Osh-a-Daf-LLoydRhys Hafod

Osian yn bygwth eto gyda Dafydd LLoyd yn gymorth

Tîm Datblygu Hwlffordd fu’n ymweld â Pharc Drefach ddydd Sadwrn diwethaf am gêm gyfeillgar yn erbyn y Gwylanod. Roedd yn gyfle i ambell chwaraewr o’r tîm cyntaf gael gêm wedi bod bant gydag anaf ag hefyd yn gyfle i chwaraewyr sydd ar gyrion y tîm cyntaf ddangos eu doniau.

Bechgyn ifanc yn disgleirio

Roedd y tywydd yn ffafrio gêm agored ac felly y bu, gydag olwyr ifanc y tîm cartref yn chwarae rygbi arbennig ar adegau. Yn amlwg iawn ymhob agwedd o’i chwarae oedd y newydd-ddyfodiad i’r tîm, Ynyr Lloyd-Jones oedd yn fewnwr. Cafwyd perfformiad addawol gan y canolwr ifanc, Llion Evans hefyd.

Cyfartal bu’r chwarae rhwng y ddau dîm gydag amddiffyn yn drech na’r ymosod am y chwarter awr gyntaf. Yna, wedi torri’n rhydd o’i hanner eu hunan mi gafodd yr asgellwr, Ifan Davies y bêl yn ei ddwylo a gyda’i gyflymder, mi gurodd yr amddiffyn i groesi am gais cyntaf Aberaeron.

Y canolwr, Rhys Jones oedd y nesaf i groesi dros Aberaeron gan roddi mantais o 12-0 i’r tîm cartref ar hanner amser.

Hwlffordd yn taro’n ôl

Daeth Hwlffordd yn ôl gyda dwy gais wedi’r egwyl gan osod y sgôr yn gyfartal. Bu rhaid i’r tîm cartref amddiffyn am gyfnod wedi hyn gan i’r ymwelwyr godi eu gêm. Methiant bu eu hymdrech i groesi’r llinell gan fod amddiffyn y Gwylanod yn ddigon cryf i’w hatal.

Roedd y blaenasgellwr, Osian “Sychpant” Davies yn amlwg iawn yn ei benwisg newydd, yn ennill tir yn gyson drwy garlamu trwy amddiffyn Hwlffordd. Wedi torri i mewn i 22 Hwlffordd gydag un o’r rhediadau hyn mi dderbyniodd Ifan Davies y bêl ar yr asgell i sgori ei ail gais.

Dwy gic gosb

Aberaeron oedd yn pwyso am weddill y gêm gan orfodi’r ymwelwyr i droseddi. Bu Steff Rees yn llwyddiannus gyda dwy gic gosb i ychwanegu at ei ddwy drosiad. Enwebwyd Rhys Jones yn seren y gêm.

Bydd y Gwylanod a’r tîm cyntaf yn Teithio i Tycroes y Sadwrn hwn.

Gellir cael mwy o newyddion am eich tîm rygbi lleol ar dudalen Facebook Clwb Rygbi Aberaeron.