Yn ei hail gêm o’r tymor yn y gynghrair, teithiodd Aberaeron i Dycroes oedd wedi disgyn o’r ail adran. Roedd hyder yr ymwelwyr yn uchel wedi curo Llangadog y Sadwrn cynt ac yn erbyn tîm cryf mi wnaeth Aberaeron yn arbennig o dda i fod 5 – 17 ar y blaen ar hanner amser. Sgoriwyd ceisiau gan Owain Bonsall a Will James ac mi giciodd Rhodri Jenkins dau drosiad a chic gosb.
Edrych am bwynt bonws
Wedi chwarter awr o’r ail hanner mi aeth Aberaeron ymhellach ar y blaen pan groesodd Julian Roberts am gais a throsiad Rhodri Jenkins. Gyda’r sgôr erbyn hyn yn 5 – 24 roedd cefnogwyr Aberaeron yn gobeithio am un cais arall er mwyn sicrhau eu hail bwynt bonws o’r tymor. Nid felly y bu a gweddol gyfartal bu’r chwarae hyd at tua phum munud cyn diwedd y gêm.
Tycores yn codi eu gêm
Wedi gwneud nifer o newidiadau, efallai bod Tycroes wedi cryfhau eu tîm ond y tîm cartref oedd drechaf am weddill y gêm. Gan i’r dyfarnwr ganiatáu naw munud o amser ychwanegol mi gafodd Tycroes ddigon o amser i sgorio tair trosgais ac ennill y gêm.
Y Gwylanod yn ennill 12 – 24
Ar y cae gyferbyn, mewn gêm gyfeillgar, mi wnaeth y Gwylanod drechu ‘Chiefs’ Tycroes gan sgorio pedair cais; dwy gais i Steffan ‘DJ’ Jones ac un yr un i Siôn Evans a Gethin Dafis. Ciciodd Steffan dau drosiad.
Medrwch ddarllen adroddiad mwy manwl o’r ddwy gêm gan Arwyn ‘Sychpant’ Davies ar dudalen Facebook y clwb.