Cofio Ciliau Parc💙

Digwyddiadau Dathlu Hanes Ysgol Ciliau Parc

Ffion Evans
gan Ffion Evans

Dyma dymor olaf Ysgol Ciliau Parc gan fydd Ysgol Dyffryn Aeron yn agor ei drysau ym mis Ionawr. Mae pedwar digwyddiad wedi eu trefnu ar gyfer dathlu ein hanes fel ysgol.

Hydref 4 – Cwis Ysgol Hwyl – yn Neuadd Ciliau Aeron

Dewch â thîm o hyd at 10 aelod i ymuno yn yr hwyl. Bydd paned a chacen ar gael i bawb. £4 i oedolion a £1 i blant. Drysau yn agor am 6.30 gyda’r cwis yn dechrau am 7y.h. Bydd y cwis yn ddwyieithog.

Hydref 20 – Plannu Bylbiau

Byddwn yn dod at ein gilydd fel cymuned i blannu bylbiau cennin pedr a chlychau’r gog o gwmpas yr ardal. Wrth yrru drwy’r pentref mewn blynyddoedd i ddod, cawn ein hatgoffa o ddyddiau hapus yn Ysgol Ciliau Parc wrth i ni weld y blodau hardd!

Tachwedd 22 – Cyngerdd a Noson Ffilm – yn Theatr Felinfach

Cyfle i wylio hen glipiau fideo o sioeau a chyngherddau’r ysgol ar hyd y blynyddoedd ac mi fydd plant yr ysgol hefyd yn cyflwyno cyngerdd. Mi fyddwn yn perfformio yr un sioe ddwywaith – perfformiad cynnar am 5 o’r gloch a’r perfformiad hwyrach am 7.15 y.h.  Pris tocyn yw £5 i oedolyn a £3 i blant. Bydd modd archebu tocynnau trwy’r theatr.

**Tocynnau’n mynd ar werth ar y 1af o Hydref!! Cysylltwch â’r Theatr (01570 470697). 

Rhagfyr 7 – Diwrnod Agored

Dewch i grwydro o amgylch yr ysgol am y tro olaf, i rannu straeon ac edrych ar hen ffotograffau a lluniau. Bydd cyfle am baned a chlonc wrth hel atgofion. Os byddai unrhyw un yn fodlon helpu gyda chasglu hanes ar gyfer y digwyddiad yma, cysylltwch gyda Ffion Evans yn yr ysgol. Buasem yn gwerthfawrogi unrhyw gymorth.

Cofrodd

Rydym hefyd yn ffodus iawn bod yr artist lleol, Rhiannon Roberts (Cilmeri gynt), wedi creu darlun arbennig i ni fel cofrodd i’r ysgol. Cysylltwch â’r ysgol os hoffech brynu darlun, neu gallwch archebu a thalu trwy ParentPay. Byddant ar werth hefyd yn ystod y Noson Gwis, y Noson ffilm/Cyngerdd a’r Diwrnod Agored.

Print 8”x8” wedi ei fowntio – £10

Print 8”x8” wedi ei fframio – £20

Bydd mwy o wybodaeth i ddilyn am yr holl ddigwyddiadau. Cadwch lygad ar dudalen Facebook – Cofio Ciliau Parc.