Bu’n gêm gyntaf anodd i ymgyrch Clwb Rygbi Aberaeron yng nghystadleuaeth y Cwpan, Adran 3 Undeb Rygbi Cymru yn erbyn clwb nad oeddent wedi eu wynebu o’r blaen. Mi ymwelodd Tonna a Pharc Drefach yn llawn hyder a bu’r deng munud gyntaf yn brawf o’i gallu i fedru mynd adref gyda buddugoliaeth.
Amddiffyn ac amddiffyn!
Yr ymwelwyr oedd drechaf gyda’r tîm cartref yn methu ennill unrhyw feddiant o’r bêl ac mi wnaeth Tonna groesi am drosgais o fewn pum munud. Roedd eu hymosodiadau cyson yn fygythiol ond bu amddiffyn Aberaeron yn arwrol yn ystod y cyfnod hwn gyda phob un o’r pymtheg yn dal eu tir ag yn ymatal unrhyw fygythiad am gais arall. Wedi cyfnod hir heb y bêl dyma olwyr Aberaeron yn manteisio ar ryw ychydig o feddiant ag yn mynd ar y blaen o 10 – 7 wedi dwy gais gan Dafydd Llewelyn ar yr asgell chwith.
Er i’r sgorfwrdd ffafrio’r tîm cartref, yn ôl at yr un drefn bu’r hanes tuag at ddiwedd yr hanner cyntaf gyda Thonna yn llwyddo i sgorio eu hail drosgais.
Cais Steff yn codi gobeithion
Gyda’r gwynt ar eu cefn yn yr ail hanner mi wnaeth Aberaeron godi eu gêm. Er gorfod amddiffyn yn ddewr yn y munudau cyntaf, y tîm cartref oedd y cyntaf i ychwanegu pwyntiau trwy gic gosb gan Rhodri Jenkins.
Trwy gadw Tonna yn hanner eu hunain a gofyn iddynt redeg yn ôl gyda’r bêl, mi roedd pwysau amddiffyn Aberaeron yn creu camgymeriadau gan yr ymwelwyr ag o’r herwydd, y tîm cartref oedd gryfaf. Mi wobrwywyd eu hymdrechion pan wnaeth y maswr Steffan Rees dwyllo’r amddiffyn a chroesi am gais arbennig i roddi Aberaeron ar y blaen am y tro cyntaf. Cododd gobeithion y chwaraewyr wedi hyn a bu chwarae celfydd ganddynt gan roddi gwledd o rygbi i’r nifer fawr o gefnogwyr.
Tonna’n taro nôl
Nid oedd y tîm yma am golli a ni fu’n hir wedi ail ddechrau chwarae cyn i Donna ychwanegu cic gosb at eu sgôr. Roedd yn dal yn gêm agos gydag Aberaeron ond tri phwynt ar y blaen, ond tua hanner ffordd trwy’r ail hanner, wedi gwaith da gan y blaenwyr cyrhaeddodd y bêl Dafydd Llewelyn ar yr asgell i sgorio yn y cornel. Er i fantais y tîm cartref fod yn wyth pwynt gyda chwarter awr o’r gêm yn weddill, nid oedd yn amser iddynt eistedd yn ôl. Bu’n rhyddhad pan wnaeth Rhodri Jenkins gicio anferth o gic gosb i ychwanegu at y sgôr.
Y llifddorau’n agor
Gyda’r gêm yn tynnu at ei therfyn, bu tipyn o newidiadau gan yr ymwelwyr ond gan y tîm cartref oedd y fantais. Roedd eu ffitrwydd yn well na’i gwrthwynebwyr a bu’n weddol hawdd iddynt ychwanegu tair cais arall cyn diwedd y gêm; cais i Ifan Davies a dwy gais i Morgan Llewelyn. Ciciodd Rhodri Jenkins dair trosiad a dwy gic gosb. Gwnaeth y cefnogwyr ddewis y blaenasgellwr, Gethin Dafis yn seren y gêm.
Aberaeron trwodd felly i’r ail rownd a hynny bant yn erbyn Hwlffordd ar 26 Hydref.
Bydd Aberaeron yn teithio i Landeilo’r Sadwrn yma i chware eu trydedd gêm yn y gynghrair.