Pentre’n dweud diolch i Elliw

Cribyn yn ffarwelio a’i Swyddog Datblygu

Euros Lewis
gan Euros Lewis
Cyflwyno-Elliw-3a

Elliw yn dal yr argraffiad arbennig o Gywydd Ysgol Cribyn a gyflwynwyd iddi yn arwydd o ddiolchgarwch cymdogaeth gyfan.

Blwyddyn yn ôl roedd hi’n nabod neb yng Nghribyn. Ond nos Sadwrn gyntaf mis Hydref daeth bobol y pentre ynghyd i gynnal parti yn ei henw. Yr enw, wrth gwrs, yw Elliw Dafydd – Elliw Cefn Coch, Llanilar hynny yw, nid Elliw Ffatri na’r Elliw Dafydd arall (Gwarffynnon)!

Roedd hi’n fis Hydref y llynedd pan ddaeth y gymdogaeth ynghyd am y tro cyntaf i drafod y syniad o gyd-brynu Ysgol Cribyn a’i datblygu’n ganolfan gymdeithasol ac addysg leol ac yn gartre fforddiadwy ar gyfer teulu ifanc lleol. Gyda gweithred gyntaf y fenter oedd sicrhau cyllid i gyflogi Swyddog Datblygu. O fewn dim o dro apwyntiwyd Elliw i’r swydd ac er mai dechrau’r flwyddyn newydd y cychwynnodd yn swyddogol ar ei gwaith roedd hi eisoes wedi cymryd pob cyfle posib i ddod i nabod bobol Cribyn, yn blant Adran Bro Silin, aelodau pwyllgorau’r pentre ac yn newydd-ddyfodiaid yn ddi-wahân.

‘Dyna’r peth hyfryd am Elliw’ medd Alan Henson, cadeirydd menter yr ysgol ‘Mae hi’n siarad â phawb, yn dangos diddordeb ym mhawb a phob un a ma’ hynny wedi bod yn help mawr i godi’r fenter o fod yn berchen i griw bach ohono ni i fod yn berchen i biti bod pawb yn y gymdogaeth.’

Ategu hynny wnaeth Euros Lewis, cydweithiwr i Elliw yn y broses o greu Cymdeithas Budd Cymunedol Ysgol Cribyn. ‘Nid yn unig mae hi wedi bod mor drefnus a thrylwyr yn y gwaith cymleth o greu menter gymdeithasol ond, dro ar ôl tro, ma’ hi wedi mynnu cerdded y filltir ychwanegol er mwyn gwneud yn siŵr fod yr ymgyrch yn un mor llwyddiannus ag oedd hi’ meddai.

A dyna, yn syml, oedd y parti, nos Sadwrn 5 Hydref – pawb ynghyd i ddweud ‘Diolch o waelod calon Cribyn i ti, Elliw a phob dymuniad da yn dy swydd bwysig yn Swyddog Datblygu’r Gymraeg o fewn mudiad Ffermwyr Ifainc Cymru’.

Yn arwydd o werthfawrogiad yr ardal gyfan cyflwynwyd i Elliw argraffiad arbennig o’r cywydd a gyfansoddwyd gan Ianto Jones, Frongelyn ar gyfer ymgyrch yr ysgol. Dyluniwyd yr argraffiad yn unswydd gan yr artist graffig Moira Hay, Felin-hafodwen.