Pum pwynt oddi cartref

Llandeilo 5 – 34 Aberaeron

Haydn Lewis
gan Haydn Lewis
IMG_20241012_160341

Y Sgorfwrdd

Bobby-1Rhys Hafod

Seren y gêm – Bobby Jones

Jenks-1Rhys Hafod

19 pwynt i Rhodri Jenkins

Aeth nifer dda o gefnogwyr y Gwylanod i lawr i Gae William yn Llandeilo dydd Sadwrn diwethaf ac mi gawsant eu bodloni gyda buddugoliaeth a phum pwynt i’w cadw yn y frwydr ar frig y gynghrair.

Yn erbyn tîm ifanc a brwdfrydig, mi ddangosodd Aberaeron eu profiad i guro Llandeilo yn weddol gyfforddus yn y diwedd drwy sgori pedair trosgais a dwy gic gosb. Sgoriwyd y ceisiau gan Steffan “DJ”  Jones (dwy gais), Alex Danton a Rhodri Jenkins. Bu Rhodri yn llwyddiannus gyda phedair trosiad a dwy gic gosb gan gyfrannu 19 pwynt at yr achos. Mi wnaeth y cefnogwyr ddewis Bobby Jones yn seren y gêm i Aberaeron.

Bydd y ddau dîm o Aberaeron yn teithio i chwarae Hwlffordd y Sadwrn nesaf.

Dweud eich dweud