Gwyl newydd i Ddyffryn Aeron

Sesiwn straeon a chanu gwerin i blant a Noson Lawen i’r teulu cyfan

Euros Lewis
gan Euros Lewis
J.-Ffos-Davies-Ysgol-Cribyn

John Ffos Davies gyda dosbarth o’i blant yn Ysgol Cribyn, gynt

Cleif Harpwood fydd un o artistiaid Noson Lawen Gwyl Ffos Davies
Owen-Shiers-xx

Y canwr a’r casglwr gwerin – un o’r criw fydd yn arwain sesiwn y plant

Ffos Davies. Prifathro Cribyn yn nauddegau’r ganrif ddiwethaf. Arweinydd côr y pentre. Codwr canu Troedyrhiw ac athro di-dâl i weithwyr fferm yr ardal o’dd â golwg ar fynd i’r coleg. Ac ar ben hynny i gyd, achubwr rai o ganeuon gwerin enwoca’r genedl! Heb os, mi o’dd e’n dipyn o foi! A dydd Sadwrn, 26 Hydref, mi fydd gŵyl newydd yn cael ei sefydlu yng Nghribyn i gofio amdano. ‘A’r ffordd ore o gofio amdano yw canu’r caneuon yn uchel a gyda arddeliad’ medd Euros Lewis, un o’r trefnwyr.

‘Mi o’dd y gymwynas wna’th e â’r Gymraeg yn aruthrol’ medd Euros. ‘Sylweddolodd yn fuan rôl symud i Gribyn fod y caneuon yr hen bobol yn drysor – trysor o’dd wedi eu colli o gymaint o rannau eraill o Gymru. Bwrodd ati i’w ‘recordo’ â help pensil, copy-books yr ysgol, nodiant So-Ffa a’i glust. Meddyliwch: oni bai amdano galle ‘Twll Bach y Clo’  a’r  ‘March Glas’  a gymaint o berlau eraill fod wedi’u diflannu i ebargofiant!’

Mi fydd dau hanner i’r ŵyl. Bnawn dydd Sadwrn (2 hyd 4 o’r gloch) mi fydd Linda Tomos, Hilary McConnell a Geoff Davies yn arwain sesiwn straeon a gemau lleol ar gyfer plant Meithrin a Chynradd ac mi fydd y cantorion gwerin Owen Shiers a Caryl Hâf yn eu harwain i gyd-ganu’r hen ganeuon.

Gyda’r nos mi fydd neuadd Ysgol Cribyn yn un Noson Lawen fawr yng nghwmni Cleif Harpwood,  Ifan Gruffydd, Dafydd Jones, Ceri Rhys Matthews, Mali Lewis, Ianto Jones, Robyn Tomos, Carys Hâf, Julie Murphy, Iwan Coedfadre ac Iwan Tyglyn. Medd Cleif ‘Mae’n amlwg fod Ffos Davies yn dipyn o foi a mi fydd hon yn dipyn o noson – noson lawen go iawn!’

GŴYL FFOS DAVIES – YSGOL CRIBYN – DYDD SADWRN, 26 HYDREF – SESIWN Y PLANT: 2 o’r gloch (rhad ac am ddim) – NOSON LAWEN FFOS DAVIES: 7.30 o’r gloch. GWASANAETH BAR GYDOL Y NOS. Mynediad: £5.00 / £2.50 wrth y drws.

Dweud eich dweud