Dwy fuddugoliaeth

Hwlffordd 13 – 25 Aberaeron

Haydn Lewis
gan Haydn Lewis
Jenks-toRhys Hafod

Seren y gêm – Rhodri Jenkins

Bu’n brynhawn llwyddiannus i Glwb Rygbi Aberaeron i lawr yn Hwlffordd y Sadwrn diwetha’, gyda’r ddau dîm yn fuddugol.

Gêm anodd i’r tîm cynta’ yn y gynghrair

Er mynd ar y blaen 0 – 13 o fewn y deng munud cyntaf, anodd bu’r ymdrech o hynny ymlaen hyd at y deng munud olaf cyn sicrhau’r fuddugoliaeth. Bu chwarae amddiffynnol yr ymwelwyr yn arbennig gan wrthsefyll rhediadau cryf a chyson Hwlffordd i geisio croesi’r llinell.

Y canolwr, Rhodri Jenkins gafodd y pwyntiau cynnar drwy sgori cais, trosiad a dwy gic gosb. Bu’r chwarae am weddill yr hanner ym mhen arall y cae gyda Hwlffordd yn ymosod, ond yn methu croesi’r llinell tan y munudau olaf. Ni fu’r trosiad yn llwyddiannus.

Ennill yr ail hanner 

Yr un fu’r stori yn yr ail hanner gyda Hwlffordd yn ymosod trwy eu blaenwyr a’i holwyr mawr. Heblaw am un cais ag un gic gosb i Hwlffordd, mi wnaeth Aberaeron ddal eu tir. Yna, tua hanner ffordd trwy’r ail hanner pan wnaeth yr ymwelwyr ymweliad prin â 22 Hwlffordd mi dorrodd y mewnwr, Rhodri Thomas yn rhydd o sgrym ar yr ochr dywyll a sgorio cais i osod Aberaeron 13 – 18 ar y blaen. Ychwanegwyd at sgôr Aberaeron pan dorrodd y capten, Morgan Llewelyn drwodd i sgorio cais. Bu seren y gêm, Rhodri Jenkins yn llwyddiannus gyda’r trosiad.

Roedd Aberaeron yn gorffen yr ornest yn gryf ag yn wahanol i’r rhan fwyaf o’r chwarae, yn cadw Hwlffordd yn hanner eu hunain. Mi wnaeth Steffan “Bwtch” Jones dwrio’r bêl am gais tua’r diwedd i ychwanegu’r pwynt bonws. Yn anffodus, ni welodd a dyfarnwr y digwyddiad a gorfu derbyn ond pedwar pwynt am ennill yn y diwedd.

Bydd rhaid dychwelyd i Hwlffordd y Sadwrn nesa’ i’w chwarae eto, ond yn ail rownd Cwpan Rygbi Cymru (Adran 3) y tro yma. Dylai’r fuddugoliaeth hon roddi tipyn o hyder i’r tîm.

Eryrod Hwlffordd 14 – 34 Gwylanod

Bu’n gêm dipyn haws i’r Gwylanod ar y cae gyferbyn, gan iddynt ddangos eu cryfder drwy sgorio pum cais, gyda’r Eryrod ond yn sgorio dwy.

Y sgorwyr i Aberaeron oedd Kieron Etheridge, Osian “Sychpant ” Davies (dwy gais),  Mathew Harries ac Ifan Davies. Ciciodd Mathew tair trosiad ag un gic gosb a chafodd Ifan Davies ei enwebu’n seren y gêm gan y cefnogwyr.

Bydd y Gwylanod yn teithio i chwarae Dinbych y Pysgod dydd Sadwrn nesaf.

Dweud eich dweud