Gemau ‘Olympaidd’ Ciliau Aeron 1934

“Cofiwch ddod â’ch coits eich hun!”

Aled Bont Jones
gan Aled Bont Jones
Unknown-6

Wrth chwilota ychydig dro ‘nôl drwy ffeil adref sy’n cynnwys dogfennau ac ati o’r dyffryn, mi ddes ar draws yr eitem hynod ddiddorol yma sy’n werth sôn ychydig mwy amdano.  Poster, neu raglen y dydd hyd yn oed, ydyw o’r drydydd achlysur i dwrnament chwaraeon gymryd lle ym mhentref Ciliau Aeron yn ystod haf 1934.  Dros 90 mlynedd ‘nôl erbyn hyn, fe ymgasglodd trigolion o bob cwr o’r sir i gymryd rhan yn y gweithgareddau ar bnawn Sadwrn, Awst 4ydd, 1934.

Athletau, coits, rasys ceffylau, rasus o bob pellter i’r plant ac oedolion, heb sôn am rasus beics. Beth well oedd gan y gemau Olympaidd i’w gynnig nag oedd yn barod yn bodoli ar gae neilltuwyd ar ei gyfer ar gaeau Pontfaen.  A beth wedyn am ras y sach, neu’r un dri-droed i blant?  Digon i ddiddanu tipyn bach o bawb ddywedwn i.

Cystadlaethau dynnodd fy sylw i oedd ras y sigaréts, dyfalu pwysau y ddafad a hefyd y ras feics oedd ond yn agored i gystadleuwyr archebodd ei beiciau yn siop D. J. Jones, Central Cycle Stores, Ciliau Aeron.  Oes rywun yn gwybod ble’n union oedd y siop yma yn y pentref?  Wrth gwrs, yn draddodiadol yn Nyffryn Aeron mae taflu coits.  Dim ond chi ddod a coits eich hunan efo chi, byddai modd ennill 10/-.

Yr hyn sy’n taro mi fwyaf ar y poster ydy enwau’r bobl a’u cartrefi.  Yr un amlwg ydy Thomas Edward Jones, Pontfaen, ar dir yr hwn lle gynhelir y cystadlaethau.  Efe hefyd oedd is-lywydd y dydd.  Yn llywydd oedd Evan Jones, Woodlands, sef tad y cyn chwaraewr rygbi efo clwb Cymry Llundain, Islwyn Jones.  Pedair oed fyddai Islwyn yr adeg yma, felly go brin gafodd gyfle, swyddogol ta beth, i arddangos ei ddoniau ar gae chwarae Pontfaen y diwrnod hynny.

Mae enwau diddorol dros ben ymysg y noddwyr fu’n hael eu cymwynas.  David Owen Evans, dros blaid y Rhyddfrydwyr, oedd Aelod Seneddol Sir Geredigion ar y pryd, ar ôl iddo lwyddo i ennill mewn is-etholiad ym 1932.  Bu’n cynrychioli’r sir drwy gydol yr Ail Ryfel Byd, tan ei farwolaeth pan oedd dal yn ei swydd ym 1945.

Fe sylwir yn y darn fod yna dipyn o drigolion Llundain ar restr y noddwyr.  East Ham, Harley Street, Upton Park a Rotherhithe ond yn ychydig o gartrefi’r Cymry Llundain, a mwy na thebyg Cymry Ceredigion Llundain, fu’n barod i gefnogi’r diwrnod ‘nôl yn ei sir enedigol.  Ar y pryd, pan oedd y poster yn barod i’w brintio, mae’n debyg fod neb yn gwybod enw cyntaf ‘_ Mitchiner, Esq, Tannerdy.’  Fe allaf gadarnhau, 90 mlynedd yn ddiweddarach, taw James Hales Mitchiner oedd enw’r gŵr yma, ac fe anwyd yn nhre Croydon, Surrey.  Mae’n siŵr fod yna rai o drigolion y pentref heddiw yn ei gofio yn byw yn Tanerdy, sef y sillafiad iawn ei gartref, efo’i wraig, May Ella Mitchiner.

Efo’r rhai oedd yn cymryd rhan fel beirniad ac ati, mae enwau diddorol ymysg hwythau hefyd, gan gynnwys Mrs. Mary Nesta Poulgrain (Howell gynt), Portland House, Aberaeron, a Mrs. Gladys Mary Douglas, Llanllyr, Talsarn.  Gweddw i’r diweddar Cyrnol Robert Vaughan Dougles oedd Mrs. Douglas a briododd efo Alexander Fraser yn hwyrach, ac ymgartrefi ger Llandysul.

Ar waelod y daflen fe sylwir ar enw Thomas Davies, Gwynfro.  Tad i un oeddwn yn gyfarwydd iawn efo, sef Ivor Davies, ynghyd a’i chwaer, Megan, a brawd, Tommy.  Ivor Siop wrth gwrs i bawb a’i adnabyddir.  Y pwyllgor mewn dwylo da, efo yntau fel cadeirydd, a Thomas Jenkins, Teglan, fel y trysorydd.  Swyddi’r ysgrifenyddion hefyd mewn dwylo diogel efo Dai Griffiths, Neuadd-ddu, oedd yng ngofal y ‘steshon’ yn Ciliau a hefyd yr ysgolfeistr, Jenkin Rees Jones, Tŷ’r Ysgol.

I gyd-redeg, yn llythrennol, efo’r darn yma, ‘rwyf wedi dod o hyd i enwau cyflawn o’r buddugwyr ymhob gystadleuaeth.   Fe gyhoeddodd y Cambrian News yr wythnos ganlynol restr gyflawn o’r holl fuddugwyr yn ei rhifyn. Yn naturiol, ni allaf enwi pob un o’r enillwyr yn y darn yma, ond mae yna enwau ynddi sydd yn dwyn atgofion melys i mi’n bersonol.  Yn fuddugol yn y ras 100 llath i fechgyn dan 15 oedd Dennis Griffiths, Bryn Erw. Rwy’n cofio Dennis yn dweud wrthym ryw dro wrth sgwrsio efo yn Aberaeron am darian o’r enw ‘Hazeldene Shield.’  Tarian athletau oedd hi yn ôl Dennis a chafodd ei “dwyn”, yn ôl ef gan un o’r ysgolion lleol bu’n cystadlu amdani.  Wna’i ddim enwi’r ysgol, achos mae hi dal ar agor, ac nid yn un o’r rhai fydd yn cau am y tro olaf cyn diwedd y flwyddyn.  Mi fues mor ffodus a gweld y darian tua 30 mlynedd ‘nôl yn Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth, ond ‘dwi heb ei gweld ers hynny, er fy mod wedi edrych allan amdani.

Megan Jones (David ar ôl priodi), Pontfaen, bu’n llwyddiannus wrth gipio’r ras wastad 100 llath i ferched.  Cofion dymunol gennym o Megan.  Hubert Griffiths, Aberaeron, yn gyd-fuddugol yn y ras tri choes efo J. Hubbard, Aberaeron.  Nawr te, a’i John Aeron William Hubbard fydde hwnna? Rwy’n siŵr fod rhywun yn darllen y darn yma fyddai’n gwybod hynny.  Does dim dwywaith am Hubert Griffiths ta beth, gan fy mod yn ei gofio’n iawn, ac yn dipyn o ffrind i fy nhad.  ‘Roedd hefyd yn dipyn o chwaraewr pêl-droed, a bu’n aelod o’r un tîm efo Vic Hubbard yn Aberaeron a lawr y glannau yn nhîm Cei Newydd yn ystod yr 1940au hwyr.

O’r cystadlaethau wnaeth dynnu fy sylw, David John Thomas, Siop Glanafon, Cwrtnewydd gynt, enillodd y ras sigarét – beth bynnag oedd honno.  Trist oedd darganfod am farwolaeth y gŵr yma o fewn prin chwe mis yn Abertawe ar ddechrau 1935.  Jack Griffiths, Bryn Erw, oedd yn ail.  Bu tri mor lwcus a dyfalu pwysau’r ddafad, sef John Davies, Dolfor, J. N. Davies, Tyglyn Aeron a D. Beynon.  Mae’r ddau ddiwethaf yn dipyn o ddirgelwch i mi gan fy mod ddim yn gwybod enwau llawn un o’r ddau.

‘Doedd dim dwywaith pwy enillodd y ras i feics a gafodd ei brynu o siop Central Cycle Stores.  Daniel Benjamin Jones, Frongoy, Pennant, yn mynd dros y llinell gyntaf ac yn cipio’r wobr o lamp drydan i’w feic oddi wrth y perchennog, Mr. D. J. Jones.  Am daflu’r coits, gan ei fod wedi llwyddo i ddod a’i rhai hunan efo, John Lewis, Mount, Cribyn, gafodd y fraint o godi’r 10/-.

Fe sylwir ar waelod y dudalen fod yna gwpan arian i’w chyflwyno i’r sawl gipiodd fwyaf o bwyntiau yng nghystadlaethau’r oedolion.  Islwyn Jones, Llandysul, oedd hwnnw yn ôl y Cambrian News, ac fe allaf gadarnhau ymhellach taw ei enw llawn oedd Mathias Thomas Islwyn Jones.  Er o Cei Newydd oedd ei dad yn wreiddiol, fe aeth i swyddogaeth fel prifathro Ysgol Brongest.  Ond rwy’n gadael y rhan orau, yn fy marn i, tan yn olaf. Pwy oedd y gŵr a gyflwynodd y wobr – G. Faber, Esq., Tyglyn Aeron?

Wna’i ddim crynhoi hanes y gŵr yma yn llawn fan hyn, neu bydd dim diwedd ar y darllen ganddo chi i’w wneud.  Yn gryno, Geoffrey Cust Faber (Syr yn ddiweddarach) oedd ei enw, ac fe brynodd plasty Tyglyn Aeron oddi wrth Cyrnol Price Kinnear Lewes ym 1930.  Bu ef a’i wraig, Enid Eleanor Faber, yn gwersylla fwyaf dros gyfnod yr haf yn Nhyglyn Aeron.  Buodd yn gartref iddynt tan 1941.

Cyhoeddwr llyfrau ydoedd, ac rwy’n siŵr i chi glywed am y cyhoeddwyr enwog Faber & Faber.  Er bod yna ddau ‘Faber’ yn nheitl swyddogol y cyhoeddwyr, nid ei wraig oedd yn cael ei chyfeirio at fel yr ail enw.  Mae’n debyg nad oedd yna unrhyw un arall yn glwm efo’r cwmni pan enwodd Mr. Faber y fusnes.

Bu’r bardd a’r dramodydd, Thomas Stearns Eliot (T. S. Eliot), yn wreiddiol o St. Louis, Missouri, yn aros droeon yn Nhyglyn Aeron yn ystod yr 1930au.  Bu yntau yn gyfarwyddwr yn y cwmni.

‘Roedd tir Tyglyn Aeron bron yn ffinio efo cartref fy nheulu ac rwy’n cofio fy nhad yn dweud y byddai “Faber yn twlu ni mas o’r lle” pan oedd yn blentyn yn ei arddegau cynnar ac awydd ganddo i fwyta afalau iachus o’i berllan!!  Go brin fod unrhyw un ar ôl erbyn hyn a fyddai’n ei gofio, ond yn sicr mae yna dystiolaeth fod plant ysgolion Ciliau Parc a Chilcennin yn derbyn gwahoddiad i’r plasty am de brynhawn.

Fe wna’i gau pen y mwdwl efo’r darn yma nawr, ond dyma brofi fel mae un daflen fach, neu boster, neu raglen yn medru cyfleu hanesion difyr pan yn ei astudio’n go iawn.  Os oes yna unhryw un sydd am weld rhestr lawn o’r buddugwyr, neu dim ond am ychydig o’r cystadlaethau eraill, rwy’n fwy na pharod i’w rhestri i’r sawl sydd â diddordeb ynddi.