Dim gwasanaeth bws o gwbl. Dyna fel ma’ pethe wedi bod yng Nghribyn ers blwyddyn a mwy. Os nagodd gyda chi gar, neu ddim yn gallu gyrru am ryw reswm neu gilydd, o’dd hi ar ben arnoch chi.
Ond dim rhagor. Nawr, diolch i bwyso a phwyso gan bobol y pentre ma’ pethe wedi dechrau newid. Nawr, ers canol mis Hydref, ma’ bws bach yn gadael Cribyn marce 8.30 bob bore dydd Gwener am Lambed gan ddychwelyd mewn da bryd ar gyfer cinio.
‘Ry’ ni wedi gorfod poeni lot ar lot o bobol’ medd Alan Henson, gyrrwr gwirfoddol trip cynta’r bws. ‘Ddeuddeg mlynedd nôl o’dd ’da ni’r T1 yn mynd drwy’r pentre sawl gwaith bob dydd. Wedyn daeth Bwcabus i lenwi bach ar y twll. Ond ers llynedd, ers i arian Ewrop bennu, y’n ni wedi bod heb ddim. Dim-yw-dim. Mi o’dd rhaid neud rhywbeth!’ meddai.
Poeni a phwyso o’dd y ‘rhwbeth’ hwnnw ac yn y pen draw – diolch i gefnogaeth Elin Jones AS a Ben Lake AS ynghyd â’r Cyng. Ceris Jones a Chyngor Bro Llanfihangel Ystrad – cafwyd perswâd ar Lywodraeth Cymru i grafu digon o arian ynghyd i brynu bws. ‘Y cyfan o’dd ise arno ni wedyn o’dd gwirfoddolwyr i’w yrru’ medd Alan. ‘Dyna siwt ma’r bartneraieth â grŵp trafnidiaeth leol Dolen Teifi â’r gymdogaeth yn gweithio’ esboniodd Alan. ‘Nhw sy’n gofalu am y bws ond ma’ hi lan i ni i wneud yn siwr fod ’na rywun i yrru.’
Ar hyn o bryd, mae yna ’mond digon o wirfoddolwyr i gynnal yr un trip yr wythnos honno i Lambed. Ond y nod yw cael digon i alluogi’r bws i ddatblygu’n debycach i wasanaeth bws go iawn. ‘Y’n ni’n awyddus i gydweithio gyda phentrefi eraill ffor’ hyn sydd heb fws’ medd Alan. ‘Os y’n ni moyn i bobol ifainc sefyll a magu teuluoedd ffor’ hyn ma’ rhaid i ni fwrw ati i wneud y gwellianne ma’n hunain. Unwaith dechreuwch chi wneud hynny mae’n syndod be sy’n gallu digwydd’ meddai.
I ddal ‘Siarabang-bang Cribyn’, mae’n gadael sgwâr Penlan-groes am 8.20 ac yna’n ymlwybro gan bwyll bach drwy’r pentre gan adael tro’r Three Horse Shoes marce 8.30.
I w’bod mwy am wirfoddoli cysylltwch ag Euros (07813 173155)