Ymdrech arwrol!

Hwlffordd 17 – 19 Aberaeron

Haydn Lewis
gan Haydn Lewis
BruceRhys Hafod

Seren y gêm – Bruce Gaskell

Wedi colli yn y gynghrair yn erbyn Aberaeron y Sadwrn diwethaf, mi roedd y tîm cartref yn benderfynol o dalu’r pwyth yn ôl yn y gêm gwpan dyngedfennol hon. Er eu hymdrechion, amddiffyn cadarn yr ymwelwyr wnaeth ennill y dydd. Dros y blynyddoedd mae Hwlffordd wedi bod yn wrthwynebwyr anodd eu trechu ac mi fydd y ddwy fuddugoliaeth ddiweddar yma yn aros yn y cof am amser hir.

Aeth Aberaeron ar y blaen yn gynnar trwy gais gan Dyfrig Dafis yn dilyn sgarmes symudol a chwarae da gan yr olwyr. Yna, yn dilyn cic i mewn i 22 Hwlffordd gan y maswr, Steffan Rees, mi darodd y bêl y postyn cornel a thros y llinell gais. Mi wnaeth y blaenasgellwr, Steffan “Bwtch” Jones yn dda i dyrio’r bêl am gais tra bod dau o chwaraewyr Hwlffordd yn ‘cysgu’ ag yn edrych ar ei gilydd!

Hwlffordd yn taro nôl

Ni chymerodd hi’n hir cyn i Hwlffordd daro’n ôl gyda throsgais. Nid oedd yr ymwelwyr yn mynd i gael eu ffordd eu hunain yn yr ornest yma a bu Hwlffordd yn ffodus i gael cic gosb ag ychwanegu tri phwynt arall i osod y sgôr yn gyfartal. Amddiffyn y ddau dîm bu’n amlwg am weddill yr hanner cyntaf gyda’r ddau dîm yn ymdrechu’n galed am oruchafiaeth. Deg pwynt yr un oedd y sgôr ar hanner amser ac mi roedd yna frwydr galed o flaen yr ymwelwyr os am fynd trwodd i’r rownd nesaf.

Rhodri yn camu i’r adwy

Cyfartal bu’r chwarae am gyfnod hir wedi hanner amser gydag amddiffyn y ddau dîm yn drech na’r ymosod, ond fel roedd y gêm yn mynd yn ei blaen roedd Aberaeron yn creu tipyn o drafferth i amddiffyn y tîm cartref. Roedd y rheng flaen yn cynnwys Ceri Davies, Ryan Williams ag Owain Bonsall yn dod fwy i’r amlwg ac mi roedd seren y gêm, Bruce Gaskell a’i bartner yn y rhes gefn, Bobby Jones yn fygythiad cyson. Roedd Hwlffordd yn ei chael hi’n anodd dygymod â’r pwysau yma ag yn gorfod troseddi yn aml. Yn y diwedd, daeth y cyfle i Rhodri Jenkins i fynd am gic at y pyst. Gyda’i droed chwith mi fu Rhodri yn llwyddiannus gyda thair cic gosb o bellter gan roddi Aberaeron ar y blaen o naw pwynt.

Cicio da yn cadw Hwlffordd yn hanner eu hunain

Mi gadwyd y pwysau ar y tîm cartref trwy gicio crefftus gan Steffan Rees, Rhodri Jenkins a’r cefnwr, Jack Crompton gan gadw Hwlffordd yn hanner eu hunain am gyfnodau. Er hynny, roedd yna wastad fygythiad y byddai Hwlffordd yn torri trwy amddiffyn Aberaeron am gais trwy eu holwyr nerthol. Gyda phum munud i fynd, mi wnaeth Hwlffordd sgorio cais yn y cornel a’i throsi. Gyda dim ond dau bwynt o fantais roedd yn ddiweddglo cyffrous i’r nifer fawr o gefnogwyr Aberaeron oedd wedi teithio i Hwlffordd, ond gyda disgyblaeth ag amddiffyn cryf mi chwythodd y dyfarnwr am ddiwedd y gêm gan ollwng teimlad o ryddhad i bawb oedd wedi teithio.

Edrychwn ymlaen yn awr am y rownd nesaf gan obeithio y bydd Aberaeron yn ffodus i gael gêm adref ar Barc Drefach. Yn y cyfamser bydd cyn-hyfforddwr y clwb, Justin LLoyd yn dod a’i dîm lleol, Pontyberem i’r Parc dydd Sadwrn yma am bumed gêm Aberaeron yn y gynghrair.

Dweud eich dweud