Paned a Chlonc yn yr ysgol

Croeso Cynnes Caffi Cribyn i holl gloncwyr Dyffryn Aeron

Euros Lewis
gan Euros Lewis
Paned-a-Chlonc-1x

Paula (yn helpu yn absenoldeb Eiddwen) a Mags yn gweini yng nghlwb te deg newydd Ysgol Cribyn

Adeg cyfnod covid defnyddiwyd Ysgol Cribyn yn storfa ar gyfer offer PPE y cyngor sir. Llenwyd bron a bod bob twll a chornel nes ei gwneud hi’n amhosib braidd i’r gymdogaeth ddefnyddio’r adeilad. Ond wedi dipyn o frwydr, ac â chefnogaeth Cyngor Cymuned Llanfihangel Ystrad a’r Cynghorydd Sir Ceris Jones, cafwyd perswâd ar Geredigion i wagio’r adeilad ddechrau’r flwyddyn hon, ac – yn sgil hynny – y cyfle i gyd-brynu’r ysgol er budd y gymdeithas gyfan.

Ddechrau mis Hydref, â’r adeilad yn wag ac yn rhydd i’w defnyddio yn ystod y dydd a’r nos, cychwynnwyd clwb te deg neu fore coffi dan yr enw ‘Paned a Chlonc’. Clwb drws agored yw hwn sy’n cwrdd bob bore dydd Mawrth o ddeg o’r gloch ymlaen.

Mae Cymdeithas Clotas yn ddiolchgar iawn i Eiddwen a Mags am gymryd gofal o’r clwb ac i Paula sy’n barod i gamu i’r adwy yn ôl y galw.

Megis holl weithgareddau Ysgol Cribyn mae croeso i bobol o bentrefi eraill Dyffryn Aeron alw heibio, gan gynnwys cymdogion di-Gymraeg gan fod y clwb yn gyfle da iddynt glywed ac ymarfer yr iaith.

PANED A CHLONC YSGOL CRIBYN: Bob bore dydd Mawrth, 10 o’r gloch nes i’r glonc gwpla! CROESO CYNNES I BAWB!

Dweud eich dweud