Gêm anodd, ond buddugoliaeth

Yr Aman 8 – 20 Aberaeron

Haydn Lewis
gan Haydn Lewis
Yr-AmanAled Bont Jones

Parc Cwmaman

Er bod Yr Aman yn agos at waelod y tabl, ni fu hon yn gêm hawdd i Aberaeron. Mae deuddeg mlynedd wedi mynd heibio ers i’r ddau dîm gwrdd ag mi oedd y brwydrau yn erbyn Yr Aman wastad yn anodd bryd hynny.

Nid oedd hi’n syndod felly, i’r ymwelwyr brofi tipyn o rwystredigaeth wrth geisio ennill y gêm hon. Er i Aberaeron ennill, ni chafodd y nifer dda o gefnogwyr a wnaeth deithio i Gwmaman lawer o flas ar y chwarae.

Dechreuodd Aberaeron yn gryf gan orfodi’r tîm cartref ildio nifer o giciau cosb. Yna, wedi symudiad gan yr olwyr, mi dorrodd Dyfrig Dafis drwyddo i sgorio. Bu Steff Rees yn llwyddiannus gyda’r trosiad.

Gormod o gardiau melyn

Fel roedd y gêm yn mynd yn ei blaen, mi roedd y dyfarnwr yn ddigon hapus i ddangos y cerdyn melyn i’r ddau dîm. Mi wnaeth Yr Aman agor eu sgôr trwy gic gosb o flaen y pyst ag yna mi wnaethant groesi’r llinell am gais oddi ar sgrym ar linell 5 metr Aberaeron. Mi wnaeth Aberaeron daro’n ôl gyda chic gosb gan Steff Rees i osod Aberaeron ddau bwynt ar y blaen ar hanner amser (8-10).

Dechreuad da i’r ail hanner

Aeth Aberaeron ymhellach ar y blaen wedi dechrau cryf i’r ail hanner. Yn dilyn cic dda gan Steff Rees i mewn yn ddwfn i 22 y tîm cartref, mi wnaeth Aberaeron ennill cic gosb. O linell ar 5 metr Yr Aman, mi wnaeth yr wythwr, Will James groesi am gais wedi sgarmes symudol gref. O fewn deng munud i mewn i’r ail hanner roedd Aberaeron ar y blaen 8 – 20 wedi i Mathew Harries sgorio cais yn y cornel. Dyna sgôr ola’r gêm.

Amddiffyn cadarn

Yr Aman bu’n pwyso am yr ugain munud nesaf ac mi wnaeth Aberaeron eu cadw rhag sgorio gyda’i hamddiffyn cadarn. Mi wnaeth yr ymwelwyr frwydro yn ôl a bygwth llinell y tîm cartref ond yn methu’n lan â chroesi’r gwyngalch am ei pedwerydd cais a’r pwynt bonws. Er i’r Aman fygwth eto tua diwedd y gêm, eu cadw allan gwnaeth amddiffyn Aberaeron. Er disgwyl i Aberaeron gael eu pedwerydd cais mi roedd clywed chwiban y dyfarnwr am ddiwedd y gêm yn dipyn o ryddhad.

Nid oedd hon wedi bod yn ornest bleserus i’w gwylio gyda chymaint o giciau cosb, cardiau o bob lliw yn cael eu dosbarthu i’r ddau dîm a seibiau cyson am anafiadau. Rhaid i’r chwaraewyr ddysgu o’r profiad hwn – nid yw’n iawn bellach i daclo yn uwch na’r frest.

Rhaid bodloni gyda buddugoliaeth oddi cartref mewn gêm anodd. Llongyfarchiadau i Bruce Gastell o’r rheng ôl am gael ei ddewis yn seren y gêm gan y cefnogwyr. Gobeithio bydd y gêm yn erbyn Y Tymbl ar Barc Drefach y Sadwrn nesaf  yn dipyn mwy pleserus i’w gwylio.

…………………………………………………………

Medrwch weld y ceisiau ar wefan y clwb. Aled Bont Jones wedi bod i lawr yng Nglanaman yn ffilmio.

Dweud eich dweud