Mewn llai na tair blynedd mi fydd Clwb Rygbi Aberaeron yn dathlu 50 mlynedd o fodolaeth. Ffurfiwyd y clwb, fel rhai eraill yn lleol, megis Tregaron a Llanybydder, yn sgîl llwyddiant oes aur Cymru ar y cae yn ystod y 70au. Gêm gyntaf y clwb newydd oedd ar ddechrau mis Medi 1977 yn erbyn tîm yn galw ei hunain Yr Alltudion (The Exiles), sef cyfuniad o chwaraewyr oedd naill a’i wedi gadael y dref, neu yn astudio fel myfyrwyr mewn colegau bant o adref. Y canlyniad oedd 9-7 i’r clwb newydd. Dyma ddechrau ar hanes diweddar y clwb felly, ond beth am dîmau fyddai’n cynrychioli ‘Aberayron’ neu ‘Aberaeron’ mewn enw cyn hynny? A’i dyma’r dechreuad, neu oes raid mynd ‘nôl ychydig cyn hyn! Yn sicr, fe allwn mynd ‘nôl hyd at ddechrau’r 70au pan oedd enw Aberaeron yn gyson i’w weld fel tîm oedd yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth 7 bob ochr y dre ar ddiwedd Awst. Ond tîmau gwneud fyddai rhain, yn union fel Cei Newydd, yn hytrach na chlwb swyddogol. Heb fynd i ymchwilio ymhellach, ‘rwyf hefyd yn wybodol fod yna dîm yn dwyn yr enw ‘Aberaeron Old Boys’, yr hen fechgyn felly, yn troedio ar y cae rygbi yn ystod 50au o leiaf. Tybed oes yna rywun sy’n gwybod mwy amdanynt, ac a’i hen fechgyn yr ysgol sir oeddent? ‘Dwi wedi gweld llun ohohynt o thua 1958, ond wyddwn i ddim am ei hanes erbyn hyn.
Beth bynnag ydy hanes diweddar rygbi yn Aberaeron, does dim un dwywaith, na dadl, taw ym 1907 chwaraewyd y gêmau cyntaf erioed gan dîm yn cynrychioli’r dre. ‘Rydym yn lwcus iawn fod papurau newydd lleol, megis y ‘Cambrian News’, a’r ‘Welsh Gazette’, roi sylw eang i’r gêm gyntaf hynny ar ddydd Sadwrn, 5ed Ionawr, 1907. Efo dathliadau’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd drosodd am flwyddyn arall, ‘roedd bechgyn Aberaeron yn barod i herio tîm profiadol Llambed mewn gêm hollol ddierth iddynt. Dierth hefyd oedd lleoliad y gêm yng nghyswllt rygbi yn ogystal – Y Cae Sgwâr!
Adroddodd y ‘Welsh Gazette’ yr wythnos ganlynol, “A decidedly interesting match took place at Aberayron on Saturday, when a new departure was witnessed in Aberayron football. This was no less than the first Rugby match played in the town.” Wnaeth y ‘Cambrian News’ ddynodi, “This was the first game of Rugger ever played at Aberayron.” Hyn felly’n cadarnhau na chwaraeir y bêl hirgron yn Aberaeron tan hon yn erbyn Llambed. Rhaid cofio fod rygbi mewn bodolaeth yn Llambed mewn ryw ffurf neu gilydd ers o leiaf 1866. Fe sefydlwyd Undeb Rygbi Cymru ym 1881, ac er does dim prawf pendant pa sefydliad gynrychiolwyd yn y cyfarfod cyntaf yng Nghwesty’r Castell, Castell-nedd, fe gyfrif Clwb Rygbi Llambed a Chlwb Rygbi Coleg Llambed yn sylfaenwyr yr Undeb. Yn wir, fe gyrhaeddodd clwb y coleg y rownd derfynol o Chwpan De Cymru y tymor blaenorol.
Arweinwydd Aberaeron ar y cae oedd W.A. Evans (mwy am rhan fwyaf o’r chwaraewyr nes ymlaen), ag ymgasglodd 15 o fechgyn lleol ynghyd i wynebu’r gwrthwynebwyr o ochr draw i’r dyffryn. Y capten ei hun gafodd y fraint o gicio bant, ond buan lwyddodd Tommy Williams dros Lambed i gicio’r bêl allan. Mae’n werth dyfynnu’r ddau bapur newydd o’r cychwyn cyntaf. Medde’r ‘Welsh Gazette’, “Shortly afterwards the unusual sight of a scrum evoked shouts of laughter from the spectators to many of whom Rugby was a novel game.” Yr un oedd teimladau’r ‘Cambrian News’, wrth iddynt ddatgan “Roars of laughter greeted the first scrum which was formed in mid-field.” Ie, gêm ddierth iawn oedd y gêm 15 dyn i chwaraewyr a chefnogwyr y tîm cartref.
Digon di-fflach oedd yr hanner cyntaf, heb fod naill tîm neu’r llall yn dod yn agos i sgorio cais, ac fu tîm amrhofiadol Aberaeron yn ddigon ffodus o fynd ‘mewn’ am hoe heb ildio unryw bwyntiau. Yn hytrach na mynd mewn, mwy na thebyg cymryd ryw doriad ar ochr y cae am lemwn bu hanes y ddau dîm mae’n siwr. Erbyn ddechrau’r ail gychwyn, ‘roedd bechgyn Llambed yn meddwl busnes, ac yn benderfynol o sgorio yn erbyn y newydd ddyfodiaid. Tommy Williams sgoriodd y pwyntiau cyntaf ar Gae Sgwâr, wrth iddo lwyddo efo chic gosb i roi’r ymwelwyr ar y blaen o 3-0. Bu rhan yr hanerwr, Tommy Williams, yn allweddol yn unig gais Llambed wrth iddo dderbyn y bêl a phasio’n gelfydd tuag at Daniel Evans, efo yntau’n mynd drosodd yn y cornel am driphwynt ychwanegol. Triphwynt yr un oedd cyfanswm pwyntiau ceisiau a chiciau cosb yr adeg hynny, efo throsgais yn ddwy, yn union fel heddiw. Fe lwyddodd Tommy Williams efo’r trosgais i ymestyn maintais Llambed i 8-0.
Ond ‘roedd fwy o ddygnwch yn perthyn i Aberaeron na’r disgwyl, ac ni gymerodd hi’n hir nes iddynt ddod ‘nôl mewn i’r gêm efo’i cais ei hunain. Yn ôl y Cambrian News, “The Aberayron forwards breaking took the call right up the field, Pugh, dashing up, gathered the ball and crossed over and scored under the posts. The kick for goal failed.” Ychydig yn wahanol welodd gohebydd y ‘Welsh Gazette’ bethau achos, “At last, from a pass received from Milton Davies, Pugh ran in with a try amid great cheering. He was not allowed to convert it owing to some misunderstanding on the part of the referee.” Tipyn o wrthgyferbyniad rhwng y ddau felly am ymgais y trosgais. Pa un i gredu yn de! Fe gredir taw William Pugh oedd yr hanerwr sgoriodd y cais – a methu’r gic – os gafodd y cyfle i’w throsi. Beth bynnag oedd penderfyniad y dyfarnwr, yr hwn oedd yn ymgartrefi mor lleol a phosib at y Cae Sgŵar, ni fu ragor o bwyntiau yn y gêm agoriadol hyn yn Aberaeron.
Llambed yn fuddugol felly o 8-3, ond ‘roedd clod mawr gan y ddau bapur ar sut ymgerodd tîm hollol amhrofiadol Aberaeron at y gêm newydd yma – yn enwedig ar ôl iddynt fynd lawr i 14 dyn wedi i un o’i trichwarteri, T.L. Jones, adael maes y gâd yn gynnar yn yr hanner cyntaf. O’r pymtheg, fe serenodd y capten, W. A. Jones, Garfield Davies, Gabriel Evans a’r sgoriwr, William Pugh, yn neilltuol i’r “Aeronians.”
Y tîm oedd: Dr. D. M. Davies; J. Seymour Rees, Evans, T. L. Jones, W. H. Evans, J. Davies, W. Pugh; W. A. Jones, D. G. Davies, T. O. Griffiths, Henry Lloyn, H. L. Pugh, Milton Davies, Tommy Davies, B.Sc., and J. Jones. Dyfarnwr, Mr. G. Edwin Davies, Llanon House.
Oedd dyfodol i’r gêm ‘gyntefig’ yma ar lan y mor canolbarth Ceredigion? Yn ôl y ‘Welsh Gazette’ mi sicr oedd. “It is evident from Saturday’s play that there is no lack of material. The whole team to a man were fearless tacklers and hard workers, and with practice an Aberayron Rugby team ought to hold their own very well against any of the neighbouring teams.” Do, fe ddaeth Aberaeron i fodolaeth fel clwb parhaol, ond nid am 70 mlynedd arall, a tybiwn fod rhan fwyaf o’r arloeswyr yn ei beddau erbyn gêm gyntaf y clwb yn erbyn yr alltudion.
Rhaid cofio’n ychwanegol taw pêl-droed oedd gêm naturiol Aberaeron yn ystod y cyfnod hyn. Onid chwaraewyr y bêl gron ymgasglodd dros Aberaeron ar y Sadwrn hanesyddol yma. Mae gen i brawf fod pêl-droed yn bodoli’n Aberaeron ers 1883, ac fu’n gêm gyson yn y cyffuniau dros y degawdau wedi hyn. Ond stori arall ydy honno. Beth mae raid gofio hefyd taw pyst pêl-droed oedd i fyny ar y Cae Sgŵar yn hytrach na rhai rygbi. Mae hyn i’w brofi mewn llun o gêm tebyg yn hwyrach lawr y lein.
I gloi’r hanes, a’r rhan cyntaf, am y tro, hon oedd y gêm gyntaf mewn cyfres o dair fu’n Aberaeron yn ystod misoedd cynnar 1907. Yn yr ail ran, mi fyddaf yn sôn fwy am y chwaraewyr gynrychiolodd Aberaeron, ac hefyd am yr ail gêm, yn erbyn tîm yr ysgol leol.