Amddiffyn cadarn yn ennill y dydd

Aberaeron 13 – 17 Y Tymbl

Haydn Lewis
gan Haydn Lewis
Steff-Bwtch-Y-TymblRhys Hafod

Sgoriwr cais Aberaeron – Steffan “Bwtch” Jones

Yn eu gêm olaf y flwyddyn ar Barc Drefach, ni chafwyd y canlyniad a ddisgwylir gan Aberaeron. Nid oedd yr amodau yn ffafrio gêm agored y tîm cartref, ond er iddynt ddod yn agos i ennill yn y munudau olaf, yr ymwelwyr oedd yn haeddu’r fuddugoliaeth.

Cais cynnar i’r Tymbl

Cafodd Aberaeron ddechreuad da a mynd ar y blaen trwy gic gosb lwyddiannus gan Rhodri Jenkins. Daeth Y Tymbl yn ôl gan sgorio cais o linell 5 metr a sgarmes symudol gref.

Cyfartal bu’r chwarae am gyfnod gan i amddiffyn y ddau dîm atal unrhyw gyfle i ychwanegu at y sgôr. Roedd y bêl yn llithrig a nifer o gamgymeriadau trafod yn dod ag unrhyw symudiad bygythiol i ben, yn enwedig  gan y tîm cartref. 

Dim yn mynd o blaid Y Gwylanod

Bu’r cicio o’r dwylo yn dda gan y ddau dîm, ond bu Aberaeron yn anffodus i beidio â chael “50 – 22” ar ddau achlysur, er bod yna ddim i gadarnhau na ddylen nhw! Ar ben hynny gyda thua phum munud i fynd o’r hanner cynta’, wedi i seren y gêm, Bleddyn Thomas dorri trwy’r amddiffyn, mi roedd gan Aberaeron ddau ddyn yn sbâr ar yr asgell pan daflodd Steff Rees bas hir tuag atynt. Cafodd y bêl ei tharo ymlaen gan faswr Y Tymbl a’r unig gosb iddynt oedd cic gosb yn eu herbyn. Dylai’r maswr fod wedi cael carden felen a chais gosb i Aberaeron. Bu Rhodri Jenkins  yn llwyddiannus gyda’r gic.

Tua diwedd yr hanner mi ychwanegodd Y Tymbl at eu sgôr trwy gic gosb wedi tipyn o bwyso ar linell Aberaeron. Y sgôr ar yr hanner, felly yn 6 -8.

Dechrau anodd i’r ail hanner

Ni ddaeth Aberaeron allan o’i hanner eu hunain am y chwarter awr gyntaf o’r ail hanner gan fod o dan bwysau gan yr ymwelwyr. Chwarae teg i amddiffyn y tîm cartref, ni fedrodd Y Tymbl groesi am gais. Ychwanegodd Y Tymbl at eu sgôr trwy gic gosb.

Mi wnaeth Aberaeron frwydro yn ôl gyda Bleddyn Thomas, Ceri Davies a Will James yn croesi’r llinell fantais yn gyson ond methiant bu eu hymdrech i gadw’r symudiadau i fynd. Cafwyd llinell 5 metr wedi i Aberaeron ennill cic gosb. Yn anffodus, colli’r lein a wnaethant gan golli cyfle da i ddod yn gyfartal.

Cyfnod o bwysau ond dim dychymyg

Aeth Y Tymbl ymhellach ar y blaen trwy fod yn llwyddiannus gyda dwy gic gosb. Roedd hi’n anodd i’r tîm cartref osod unrhyw stamp ar y gêm gan fod amddiffyn Y Tymbl mor gadarn. Cafodd Aberaeron ddigon o feddiant ond yr un oedd y stori bob tro –  yr ymosod yn cael ei atal gan daclo cadarn a’r bêl yn aml yn cael ei throi drosodd. Tybed a byddai cic bwt dros yr amddiffyn wedi gwneud gwahaniaeth?

Diweddglo cyffrous

O’r diwedd, gydag ychydig dros bum munud o’r gêm yn weddill, daeth cais i’r tîm cartref. Brwydrodd Steffan “Bwtch” Jones ei ffordd allan o sgarmes symudol i sgorio yn dilyn lein 5 metr. Llwyddodd Rhodri Jenkins gyda’r trosiad.

Byddai cais wedi ennill y gêm i Aberaeron ac ar ddiwedd yr ornest, mi ddaeth y cyfle wedi iddynt ennill llinell ar 5 metr Y Tymbl. Enillwyd y bêl o’r lein gan Richard Francis, ond roedd amddiffyn yr ymwelwyr yn drech na’r hyrddiad gan flaenwyr y tîm cartref. Wedi pedair sgarmes, mi wnaethant ddwyn y bêl a’i chicio dros yr ystlys am ddiwedd y gêm.

Roedd balchder chwaraewyr Y Tymbl yn amlwg wrth iddynt ddathlu eu buddugoliaeth. Bu hon yn gêm anodd i Aberaeron ond rhaid canmol eu hymdrech amddiffynnol i gadw’r Tymbl rhag sgorio ond un cais. 

Bydd gêm nesaf Aberaeron yn y gynghrair bant yn Aberteifi ar Dachwedd 30

Dweud eich dweud