Yn gynnar ar fore Sul Tachwedd 17 roedd heolydd a llwybrau Aberaeron yn llawn cyffro, gyda dros 300 o unigolion yn cystadlu mewn rasys 5k a 10k.
Dechreuwyd y ras yn y Cae Sgwâr gan Andres Jones o’r dref sy’n rhedwr adnabyddus a fu’n cynrychioli Prydain yn y gemau Olympaidd yn Sydney yn 2000. O’r Cae Sgwâr teithiodd y rhedwyr o gwmpas y strydoedd cyn ymuno â’r llwybr i Lanerchaeron gan orffen ynghanol y dref.
Teithiodd rhedwyr a chefnogwyr o ledled y wlad i’r dref. Fe wnaeth y ras hefyd roi her i nifer o unigolion lleol ac roedd hi mor braf gweld y wên ar eu hwynebau wrth iddynt gwblhau’r ras! Mae nifer o fusnesau yn y dref wedi datgan bod hwn wedi bod yn ddiwrnod hynod o lwyddiannus iddynt hwy hefyd gyda gwerthiant yn y bwytai a.y.b. yn arbennig o dda.
Enillydd y ras 10k oedd Dylan Lewis mewn 35.14 munud.
Trefnwyd y ras gan Y Ford Gron, Aberaeron a diolch iddynt am yr holl drefnu a chydweithio. Hoffent ddiolch i bawb am eu cefnogaeth ac os ydych chi am gychwyn ymarfer yn y flwyddyn newydd, mae dyddiad wedi ei drefnu ar gyfer y flwyddyn nesaf, sef Tachwedd 16 a gallwch gofrestru yn barod! Beth amdani?