Garddwr arbennig yn ymweld â’r Dyffryn.

Nos Fercher yma! Dewch draw.

gan Mair Jones
881594BD-BF60-4252-B598

Ivor Mace a fydd yn ymweld â Chlwb Garddio Dyffryn Aeron nos Fercher.

Nos Fercher yma, Ionawr 15fed bydd ymwelydd arbennig iawn yng Nghlwb Garddio Dyffryn Aeron.

Mae Ivor Mace o’r Rhondda yn adnabyddus drwy’r wlad fel garddwr hynod lwyddiannus yn arbennig ym myd tyfu rhosynod a chrysanthemums.

Bydd yn ymweld â’r Clwb sy’n cwrdd yn Lolfa Theatr Felinfach am 7.30 nos Fercher.

Croeso cynnes i arddwyr profiadol neu rywun sydd ond yn dechrau ar y daith! Fe wnewch chi dderbyn digon o dips!

Dweud eich dweud