Chwaraeon y Sir
Bu cynrycholiaeth gref o’r clwb yn cystadlu yn Niwrnod Chwaraeon y Sir ar gampws Ysgol Bro Pedr. Llwyddwyd i ennill y dodgeball i fechgyn dan 28 oed ynghyd â’r rygbi cyffwrdd rhwng 14-17 oed. Daeth y merched hŷn yn gydradd 2il yn yr hoci gyda’r bechgyn hŷn yn hawlio’r 3ydd wobr yn y pêl-droed. Llwyddwyd i gystadlu yn y rownderi, pêl-rwyd a’r frisbee.
Aeth y clwb ymlaen i gystadlu yng nghystadleuaeth Athletau’r Sir ar gaeau Ysgol Gyfun Aberaeron lle llwyddodd aelodau’r clwb ddangos eu doniau yng nghystadlaethau trac a maes. Ar ddiwedd y ddwy gystadleuaeth, hawliodd y clwb y cwpan am y nifer fwyaf o bwyntiau yng nghystadlaethau’r Chwaraeon.
Saethu Colomennod Clai
Bu Bleddyn Thomas yn llwyddiannus unwaith yn rhagor ar ennill y gystadleuaeth Saethu Colomennod Clai dan 28 oed.
Rygbi 7 bob ochr
Cynhaliodd y sir gystadleuaeth boblogaidd y Rygbi yng Nghlwb Rygbi Llambed eleni a braf oedd gweld Osian Davies yn rhan o dîm buddugol C.Ff.I. Caerwedros ar ddiwedd y noson. Bu Osian yn ddigon ffodus o gael ei enwi yn un o’r chwaraewyr ar gyfer y sgwad i gynrychioli’r Sir yn y Sioe Frenhinol hefyd.
Chwaraeon C.Ff.I. Cymru
Yn sgil llwyddiant nifer helaeth o’r aelodau yn Chwaraeon y Sir, aeth criw brwd o’r clwb draw i Aberhonddu i gystadlu yng nghystadleuaeth Chwaraeon C.Ff.I. Cymru. Llwyddodd y tîm rygbi cyffwrdd, Sion a Steffan Morgan, Rhys Jones, Mared Davies, Elen Davies a Megan Williams o G.Ff.I. Lledrod ddod yn 4ydd. Yn y prynhawn, cystadlodd yr aelodau yn yr athletau, gan ennill y campau isod:
Leah Regan – Naid Hir dan 16 – 1af
Liam Regan – 800m dan 16 – 1af
Rhys Jones – Disgen dan 21 – 1af
Sion Morgan – Disgen dan 16 – 1af
Osian Davies – 100m dan 28 – 1af
Osian Davies – Shotput dan 21 – 1af
Osian yn rhan o dîm ras gyfnewid dan 28 – 1af
Soffi Morgan – Disgen dan 14 – 2il
Ras gyfnewid (Leah, Ella Hoyles, Erin a Soffi) – 2il
Elen Davies – Shotput dan 14 – 2il
Liam Regan – Naid Hir dan 14 – 2il
Leah Regan – 800m dan 16 – 2il
Steffan Morgan – Naid Hir dan 21 – 3ydd
Erin Davies – Disgen dan 28 – 4ydd.
Braf oedd gweld fflag C.Ff.I Felinfach yn chwifio’n gryf yn ystod y cystadlu.
Cinio Cadeiryddion a Dathlu 80 C.Ff.I. Ceredigion
Llwyddodd criw o’r clwb fynd fyny i Bafiliwn Pontrhydfendigaid ar gyfer Cinio Dathlu’r Sir a Chadeiryddion. Braf oedd medru cymdeithasu fel aelodau a chyn-aelodau’r clwb yn ogystal â gweld aelodau a chyn-aelodau’n cymdeithasu wedi dwy flynedd a hanner tawel yn sgil y pandemig.
Sioe Frenhinol
Yn sgil llwyddiant yr aelodau yn y Rali, aeth nifer o’r clwb i Lanelwedd i gynrychioli’r Sir. Llwyddodd merched y ‘capable campers’, Soffi Morgan, Erin Davies ac Ella Hoyles gyrraedd y 3ydd safle, Hanna Jones a Llew Miles yn 10fed yn Creu Arwydd Fferm, Meredydd Davies yn 2il fel unigolyn yn barnu merlod dan 16, gydag ef a Ela McConochie yn rhan o dîm Ceredigion a ddaeth yn ail. Bu Osian Davies yn rhan o dîm rygbi a ddaeth yn 2il a Bedwyr Davies yn cynorthwyo C.Ff.I Pontsian yn y gystadleuaeth Tynnu’r Gelyn.
Llongyfarchiadau mawr hefyd i Meredydd Davies am arddangos am y tro cyntaf yn y Sioe Fawr eleni, gan ennill Gwobr Goffa Mostyn a Calvin Isaac am y ‘Best Welsh Cob Colt Foal’. Tipyn o gamp!
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
Cynhaliwyd ein cyfarfod cyffredinol ym Mis Gorffennaf lle etholwyd y canlynol i’w swyddi.
Llywydd – Haf Hughes
Cadeirydd – Mared Jones
Is-gadeirydd – Gwern Thomas
Ysgrifenyddes – Ffion Evans
Ysgrifennydd Cofnodion – Alaw Mair
Ysgrifennydd Rhaglen – Owain Thomas
Trysorydd – Iwan Jenkins
Gohebyddion y Wasg – Alaw Fflur a Sion Wyn
Pob hwyl ichi gyd yn eich swyddi newydd!
Eisteddfod Genedlaethol – Tregaron, Ceredigion
Braf oedd gweld stondin y C.Ff.I. ar faes y Brifwyl eleni, gyda aelodau’r clwb yn stiwardio i hyrwyddo, gwerthu raffl a chwrdd fyny gydag aelodau eraill. Bu Alaw Mair hefyd yn rhan o gyngerdd y Ffermwyr Ifanc yn y pafiliwn nos Lun yn llwyfannu ‘Maes G’.
Sêr Scarlets!
Llongyfarchiadau i ddau aelod, Kai Jones a Dewi Davies sydd wedi cael eu dewis i chwarae i dîm dan 16 Gorllewin Scarlets, ac i Kai ar gael ei ethol yn gapten. Pob hwyl i’r ddau a gweddill y garfan yn ystod y tymor!
TGAU/AS/Lefel A
Llongyfarchiadau i holl aelodau’r clwb sydd wedi derbyn canlyniadau yn ystod gwyliau haf a phob lwc i bawb ar eu taith nesaf.
Llongyfarchiadau mawr hefyd i Sion Wyn Evans ar gael ei ethol yn un o Brif Swyddogion Ysgol Gyfun Aberaeron am y flwyddyn. Pob hwyl i ti a gweddill y swyddogion.
Teithiau Tramor
Croeso nôl i Mared Fflur Jones ac Alaw Fflur Jones o’u taith i Dde Affrica, ac i Sion Wyn Evans o’i daith hwylio o Benarth i Fryste!
Clwb yn ail ddechrau!
Bydd CFfI Felinfach yn dechrau nôl nos Lun nesaf, 12 Medi am 7:30 yn Neuadd Felinfach.
Mae croeso mawr i aelodau hen a newydd!