O’r Cae Chwaraeon, i’r Sioe Frenhinol i Deithiau Tramor – CFfI Felinfach

Hynt ac helynt aelodau C.Ff.I. Felinfach yn ystod y misoedd diwethaf!

Alaw Fflur Jones
gan Alaw Fflur Jones
Screenshot-2022-09-08-at-10.46.10

Mared Fflur Jones ac Alaw Fflur Jones gyda gweddill criw Teithiau Tramor CFfI Cymru yn y Saffari yn De Affrica.

Screenshot-2022-09-08-at-10.46.04

Alaw Mair Jones yn perfformio yn Sioe Maes G yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron eleni!

Screenshot-2022-09-08-at-10.45.57

Aelodau’r clwb yn serennu yn Niwrnod Athletau CFfI Cymru. Da iawn bawb!

Screenshot-2022-09-08-at-10.45.50

Llongyfarchiadau i Meredydd Davies am ddod yn 2il fel unigolyn yn barnu merlod dan 16 CFfI Cymru yn y Sioe Frenhinol, ac am ennill Gwobr Goffa Mostyn a Calvin Isaac am y ‘Best Welsh Cob Colt Foal’.

Screenshot-2022-09-08-at-10.45.39

Llongyfarchiadau i merched y ‘capable campers’, Soffi Morgan, Erin Davies ac Ella Hoyles am gyrraedd y 3ydd safle yn y Sioe Frenhinol eleni.

Screenshot-2022-09-08-at-10.45.31

Llongyfarchiadau i ddau aelod, Kai Jones a Dewi Davies sydd wedi cael eu dewis i chwarae i dîm dan 16 Gorllewin Scarlets, ac i Kai ar gael ei ethol yn gapten. Pob hwyl i’r ddau a gweddill y garfan yn ystod y tymor!

Screenshot-2022-09-08-at-10.47.48

Dyma tîm y rygbi cyffwrdd yn Chwareon CFfI Cymru: Sion a Steffan Morgan, Rhys Jones, Mared Davies, Elen Davies a Megan Williams o G.Ff.I. Lledrod. Llongyfarchiadau ar ddod yn 4ydd.

Chwaraeon y Sir

Bu cynrycholiaeth gref o’r clwb yn cystadlu yn Niwrnod Chwaraeon y Sir ar gampws Ysgol Bro Pedr. Llwyddwyd i ennill y dodgeball i fechgyn dan 28 oed ynghyd â’r rygbi cyffwrdd rhwng 14-17 oed. Daeth y merched hŷn yn gydradd 2il yn yr hoci gyda’r bechgyn hŷn yn hawlio’r 3ydd wobr yn y pêl-droed. Llwyddwyd i gystadlu yn y rownderi, pêl-rwyd a’r frisbee.

Aeth y clwb ymlaen i gystadlu yng nghystadleuaeth Athletau’r Sir ar gaeau Ysgol Gyfun Aberaeron lle llwyddodd aelodau’r clwb ddangos eu doniau yng nghystadlaethau trac a maes. Ar ddiwedd y ddwy gystadleuaeth, hawliodd y clwb y cwpan am y nifer fwyaf o bwyntiau yng nghystadlaethau’r Chwaraeon.

Saethu Colomennod Clai 

Bu Bleddyn Thomas yn llwyddiannus unwaith yn rhagor ar ennill y gystadleuaeth Saethu Colomennod Clai dan 28 oed.

Rygbi 7 bob ochr 

Cynhaliodd y sir gystadleuaeth boblogaidd y Rygbi yng Nghlwb Rygbi Llambed eleni a braf oedd gweld Osian Davies yn rhan o dîm buddugol C.Ff.I. Caerwedros ar ddiwedd y noson. Bu Osian yn ddigon ffodus o gael ei enwi yn un o’r chwaraewyr ar gyfer y sgwad i gynrychioli’r Sir yn y Sioe Frenhinol hefyd.

Chwaraeon C.Ff.I. Cymru 

Yn sgil llwyddiant nifer helaeth o’r aelodau yn Chwaraeon y Sir, aeth criw brwd o’r clwb draw i Aberhonddu i gystadlu yng nghystadleuaeth Chwaraeon C.Ff.I. Cymru. Llwyddodd y tîm rygbi cyffwrdd, Sion a Steffan Morgan, Rhys Jones, Mared Davies, Elen Davies a Megan Williams o G.Ff.I. Lledrod ddod yn 4ydd. Yn y prynhawn, cystadlodd yr aelodau yn yr athletau, gan ennill y campau isod:

Leah Regan – Naid Hir dan 16 – 1af

Liam Regan – 800m dan 16 – 1af

Rhys Jones – Disgen dan 21 – 1af

Sion Morgan – Disgen dan 16 – 1af

Osian Davies – 100m dan 28 – 1af

Osian Davies – Shotput dan 21 – 1af

Osian yn rhan o dîm ras gyfnewid dan 28 – 1af

Soffi Morgan – Disgen dan 14 – 2il

Ras gyfnewid (Leah, Ella Hoyles, Erin a Soffi) – 2il

Elen Davies – Shotput dan 14 – 2il

Liam Regan – Naid Hir dan 14 – 2il

Leah Regan – 800m dan 16 – 2il

Steffan Morgan – Naid Hir dan 21 – 3ydd

Erin Davies – Disgen dan 28 – 4ydd.

Braf oedd gweld fflag C.Ff.I Felinfach yn chwifio’n gryf yn ystod y cystadlu.

Cinio Cadeiryddion a Dathlu 80 C.Ff.I. Ceredigion 

Llwyddodd criw o’r clwb fynd fyny i Bafiliwn Pontrhydfendigaid ar gyfer Cinio Dathlu’r Sir a Chadeiryddion. Braf oedd medru cymdeithasu fel aelodau a chyn-aelodau’r clwb yn ogystal â gweld aelodau a chyn-aelodau’n cymdeithasu wedi dwy flynedd a hanner tawel yn sgil y pandemig.

Sioe Frenhinol 

Yn sgil llwyddiant yr aelodau yn y Rali, aeth nifer o’r clwb i Lanelwedd i gynrychioli’r Sir. Llwyddodd merched y ‘capable campers’, Soffi Morgan, Erin Davies ac Ella Hoyles gyrraedd y 3ydd safle, Hanna Jones a Llew Miles yn 10fed yn Creu Arwydd Fferm, Meredydd Davies yn 2il fel unigolyn yn barnu merlod dan 16, gydag ef a Ela McConochie yn rhan o dîm Ceredigion a ddaeth yn ail. Bu Osian Davies yn rhan o dîm rygbi a ddaeth yn 2il a Bedwyr Davies yn cynorthwyo C.Ff.I Pontsian yn y gystadleuaeth Tynnu’r Gelyn.

Llongyfarchiadau mawr hefyd i Meredydd Davies am arddangos am y tro cyntaf yn y Sioe Fawr eleni, gan ennill Gwobr Goffa Mostyn a Calvin Isaac am y ‘Best Welsh Cob Colt Foal’. Tipyn o gamp!

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 

Cynhaliwyd ein cyfarfod cyffredinol ym Mis Gorffennaf lle etholwyd y canlynol i’w swyddi.

Llywydd – Haf Hughes

Cadeirydd – Mared Jones

Is-gadeirydd – Gwern Thomas

Ysgrifenyddes – Ffion Evans

Ysgrifennydd Cofnodion – Alaw Mair

Ysgrifennydd Rhaglen – Owain Thomas

Trysorydd – Iwan Jenkins

Gohebyddion y Wasg – Alaw Fflur a Sion Wyn

Pob hwyl ichi gyd yn eich swyddi newydd!

Eisteddfod Genedlaethol – Tregaron, Ceredigion

Braf oedd gweld stondin y C.Ff.I. ar faes y Brifwyl eleni, gyda aelodau’r clwb yn stiwardio i hyrwyddo, gwerthu raffl a chwrdd fyny gydag aelodau eraill. Bu Alaw Mair hefyd yn rhan o gyngerdd y Ffermwyr Ifanc yn y pafiliwn nos Lun yn llwyfannu ‘Maes G’.

Sêr Scarlets!

Llongyfarchiadau i ddau aelod, Kai Jones a Dewi Davies sydd wedi cael eu dewis i chwarae i dîm dan 16 Gorllewin Scarlets, ac i Kai ar gael ei ethol yn gapten. Pob hwyl i’r ddau a gweddill y garfan yn ystod y tymor!

TGAU/AS/Lefel A

Llongyfarchiadau i holl aelodau’r clwb sydd wedi derbyn canlyniadau yn ystod gwyliau haf a phob lwc i bawb ar eu taith nesaf.

Llongyfarchiadau mawr hefyd i Sion Wyn Evans ar gael ei ethol yn un o Brif Swyddogion Ysgol Gyfun Aberaeron am y flwyddyn. Pob hwyl i ti a gweddill y swyddogion.

Teithiau Tramor

Croeso nôl i Mared Fflur Jones ac Alaw Fflur Jones o’u taith i Dde Affrica, ac i Sion Wyn Evans o’i daith hwylio o Benarth i Fryste!

Clwb yn ail ddechrau!

Bydd CFfI Felinfach yn dechrau nôl nos Lun nesaf, 12 Medi am 7:30 yn Neuadd Felinfach.

Mae croeso mawr i aelodau hen a newydd!