Bore Coffi

Codi arian i MacMillan

gan Ysgol Gynradd Felinfach

Ar yr 22ain o Fedi, 2022, bu bore coffi yn Ysgol Gynradd Felinfach. Bu rhieni yn brysur yn coginio’r melysion ar gyfer y bore coffi a gwnaeth pawb fwynhau y danteithion. Ar ol yr holl fwynhau, codiwyd dros £500 o bunoedd tuag at elusen MacMillan. Elusen sydd yn agos iawn at galon nifer fawr ohonom.

Diolch i bawb am fod mor hael i godi arian a choginio ar gyfer y bore. Edrych ymlaen at yr un nesaf!