Ar y 15fed o Fedi 2022, dechreuodd Ysgol Ciliau Parc gerdded i Qatar er mwyn cefnogi Cymru yng Nghwpan y Byd. Mae’n her a hanner i gerdded ar draws y byd i Qatar ond peidiwch poeni, dydyn ni ddim yn cerdded yr holl ffordd i Qatar, rydym yn cerdded o gwmpas yr iard.
I gyrraedd Qatar rhaid cerdded 4380 milltir erbyn yr 21ain o Dachwedd. Mae un lap o’r iard yn 100m, felly mae 16 lap yn hafal i tua 1 milltir. Yn y dosbarth cyfrifon ni bod angen cerdded 70080 lap o’r iard i gyrraedd y targed.
Rydym i gyd yn gyffrous i wylio Cymru’n chwarae’r gêm gyntaf yn erbyn Unol Daleithiau America ar y 21ain o Dachwedd, yna Iran ac yn drydydd, Lloegr. Dywedodd un disgybl “Rwy’n gobeithio bydd Cymru yn ennill y gêm gyntaf a byddwn ni yn cyrraedd Qatar!”
Rydym yn siŵr bydd chwaraewyr Cymru yn gwneud eu gorau glas ac yn dyfalbarhau, yn union fel ni yma yn Ysgol Ciliau Parc. Pob lwc Cymru!
Ysgrifennwyd yr adroddiad gan Ioan, Harriet a Lucy, blwyddyn 5 a 6 Ysgol Ciliau Parc.