gan
Nia Llywelyn
Grwp Dysgwyr yn paratoi at Cwpan y Byd
Aeth grwp o ddysgwyr o bwtcamp Say Something in Welsh i’r Vale i ganu gyda phobol leol.
Roedd Cered yn lansio llyfryn gyda chaneuon Cymraeg, cyfieithiadau a disgrifiad ffonetig.
“Syniad dda,” ddwedodd Ciara, “bydd y llyfryn yn helpu fi i ddysgu mwy o ganeuon Cymraeg”
“Fwynheues i yr awyrgylch cartrefol a chwrw da iawn,” meddai Paul sy’n un o aelodau côr Cwmann.
Roedd y llyfryn wedi cael ei baratoi gan y Mentrau Iaith ar gyfer dathlu Cymru’n cymryd rhan yng Nghwpan y Byd yn Qatar. Roedd pawb wedi mwynhau llawer yng nghwmni Steff Rees o Menter iaith Ceredigon, sef Cered.