Dwy awdures – dau gyhoeddiad! 

Newyddion cyffrous gan Caryl a Manon.

gan Mair Jones

Dros y penwythnos yng Nhŵyl Lyfrau Aberaeron gwnaed dau gyhoeddiad cyffrous iawn!

Fe lawnsiodd Manon Steffan Ros ei nofel ddiweddaraf ‘Powell’ ac fe gafodd y gynulleidfa gyfle i glywed am yr hyn a wnaeth ei sbarduno i’w hysgrifennu. Yn wir, doedd Manon heb weld y llyfr gorffenedig nes iddi gyrraedd y neuadd fore Sadwrn.

Yn ddiweddarach yn y prynhawn wrth drafod ei nofel ‘Drift’ datgelodd Caryl Lewis y bydd y nofel yn cael ei haddasu yn ffilm, a’r ffilmio yn digwydd yng Ngheredigion! Edrychwn ymlaen at fanylion pellach yn gloi.

Uchabwynt arall oedd trafodaeth arbennig gan Glwb Darllen Dyffryn Arth dan arweiniad Dilys Jones. Grŵp o siaradwyr newydd ydynt sy’n cwrdd i drafod llyfrau yn rheolaidd. Llongyfarchiadau iddynt am fod mor barod i drafod yn Gymraeg. Da iawn chi!

Dyna beth oedd penwythnos arbennig yn Aberaeron. Llond lle o lyfrau a llond lle o ddarllenwyr. Diolch i Karen a Nikki o’r siop lyfrau Gwisgo Bookworm yn Aberaeron am drefnu.