Fe groesodd Aberaeron y llinell 15 o weithiau ym Mharc Drefach ddydd Sadwrn wrth i olwyr cyflym Aberaeron fanteisio ar ddiffyg cyflymdra a threfn yn amddiffyn y tîm o lannau’r Cleddau yn Sir Benfro.
Fe ddaeth y cais cynta’ o fewn 5 munud i’r gic cynta wrth i’r canolwyr ifanc ac addawol iawn, Gethin Jenkins frasgamu dros y llinell yn y gornel. Yn anffodus, dyna oedd cyfraniad ola’ Gethin yn y gêm yn dilyn ergyd i’r pen yn ystod y chwarae wnaeth arwain at y cais, a’r tîm rheoli yn rhagofalus wrth ei dynnu o’r maes.
Ni wnaeth hynny arafu’r momentwm o gwbwl wrth i’r gleision sicrhau’r pwynt bonws o fewn 20 munud yn dilyn dau gais i’r asgellwr Dilwyn Harries ac un i’r mewnwr bywiog Tudur Jenkins o dan y pyst, yn dilyn cyfnodau o gyd-chwarae hyfryd gan yr olwyr a’r blaenwyr fel ei gilydd.
Prin fu’r cyfleodd i Llangwm gael troed yn y gêm o gwbwl er ymdrechion teg gan y canolwr. Yn llawer rhy aml, unigolion yn unig oedd yn rhoi cynnig ar ymosod, a heb gefnogaeth gan gyd-chwaraewyr, bu’n hawdd i bac Aberaeron droi pêl drosodd dro ar ôl tro, a fe ychwanegwyd 5 cais arall cyn yr hanner – tri i’r asgellwr Steffan Dafydd Jones ar ei ymddangosiad cynta’r tymor yma. Fe wnaeth ei gyd-asgellwr, Dilwyn Harries hefyd gwblhau ei hatric, ac fe ddawnsiodd y maswr Rhodri Jenkins heibio sawl amddiffynnwr wrth groesi o dan y pyst ar ei ffordd i gyfanswm o 25 o bwyntiau yn y gêm.
Cant o bwyntiau o fewn golwg
Wrth gyrraedd yr hanner 59 o bwyntiau ar y blaen, ’roedd y golygon ar gyrraedd 100 o bwyntiau mewn gêm am y tro cynta’ yn hanes y clwb. Serch hynny ac er clod iddyn nhw, tîm Llangwm ddechreuodd yr ail hanner gydag awch, gan gadw’r meddiant am y 10 munud agoriadol. Wedi dweud hynny, nid oedden nhw’n edrych fel ychwanegu at bwysau gwaith rheolwr y sgorfwrdd digidol ar Barc Drefach, a chyn hir fe wnaeth y tîm cartre’ ail ddarganfod y ffordd i’r llinell gais. Yr eilydd o fewnwr, Steffan ‘Bwtch’ Jones wnaeth agor y sgorio yn yr ail hanner, yna’r wythwr bythol wyrdd Tudur Jenkins oedd wrth law i ochrgamu ei ffordd i’r gwyngalch yn dilyn rhediad cryf nodweddiadol gan y capten Morgan Llywelyn.
Fe groesodd y Tudur Jenkins ifanc – ar yr asgell erbyn hyn – am ddau gais arall i sicrhau fod y tri wnaeth chwarae ar yr asgell groesi am hatric. Aeth Steffan Dafydd Jones un yn well wrth ychwanegu ei bedwerydd am y gêm cyn i’r clo Bleddyn Thomas gau pen y mwdwl ar y sgorio ar y chwiban ola’.
Profion llawer mwy cadarn i ddod
15 o geisiau a 10 trosiad felly wrth i Aberaeron fwynhau prynhawn o redeg rhydd a chyd-chwarae celfydd. Rhaid rhoi clod i’r tîm o Sir Benfro am wynebu tasg aruthrol o geisio tawelu olwyr sionc Aberaeron am brynhawn hir iddyn nhw, a hynny heb roi’r ffidl yn y to. Y gwir plaen amdani fodd bynnag, yw na fydd y gêm wedi bod yn llawer o gymorth wrth baratoi am gemau anodd iawn i ddod yng nghwpan Sir Benfro yn erbyn Dinbych-y-Pysgod, ac yna Sanclêr a Llanbed yn y gynghrair.