Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi cadarnhau y byddant yn codi tâl am barcio yn eu maes parcio yn Llanerchaeron yn y dyfodol agos.
Pan ddaw’r newidiadau i rym, y tâl am barcio yn Llanerchaeron fydd £3 y dydd, ond i’r rheiny ohonoch fydd yn gallu cyfyngu eich ymweliad i lai nag awr, bydd y parcio’n aros am ddim. Bydd parcio am ddim i bawb sy’n aelod o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol hefyd.
Bydd y costau parcio ar waith rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref rhwng 10:00 a 17:00 gyda pharcio am ddim rhwng 1 Tachwedd a 28 Chwefror. Does dim cadarnhad eto pryd bydd y newidiadau yma’n cael eu cyflwyno.
Daw’r newidiadau hyn yn dilyn cyfnod byr o ymgynghori gyda rhanddeiliaid lleol. Dywedodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol: “Rydym yn elusen ac yn dibynnu ar incwm gan ein hymwelwyr i ariannu’r gwaith rydym yn ei wneud yn gofalu am Lanerchaeron. Bydd costau parcio yn ein galluogi i barhau i ddod ag arian i mewn i ofalu am y gerddi a’r buarth, cynnal cyfleusterau a chyflawni gwaith cadwraeth pwysig arall.”