Creu darn o theatr dros nos

Yr Ŵyl Ddrama yn gwthio’r ffiniau eleni ‘to

Carys Mai
gan Carys Mai
Perfformwyr y Theatr Unnos

Naomi Seren, Carwyn Blayney, Mari Mathias ac Eddie Ladd

3am: hanner ffordd trwy'r broses greu!

Mari Mathias a Eddie Ladd yn brwydro yn erbyn y blinder

3am: hanner ffordd trwy'r noson!
Y thema a roddwyd i'r criw oedd 'Pontydd'
Rhediad y perfformiad yn dechre siapio
Paratoadau funud olaf cyn y perfformiad cyhoeddus
Perfformio'r darn ar y bore Sadwrn o flaen cynulleidfa
20230318_104853-1

Oes modd creu darn o theatr mewn un noson? Wel, oes glei!

 

Daeth pedwar person creadigol at ei gilydd nos Wener d’wetha i ymgymryd â her y Theatr Unnos yn rhan o’r Ŵyl Ddrama. Cafodd Eddie Ladd, Carwyn Blayney, Mari Mathias a Naomi Seren eu cau yn Theatr Felinfach am 12 awr i greu, dychmygu, byrfyfyrio a chyflwyno darn o theatr yn seiliedig ar y thema ‘Pontydd’.

 

Cafwyd perfformiad hudolus ac ysbrydoledig ar y bore Sadwrn, ar ôl cwta 12 awr o greu ac ymarfer. Cawsom ein tywys at bob math o bontydd, o’r diriaethol i’r haniaethol, o bontydd offerynnau cerdd i bontydd rhwng y gorffennol a’r presennol. Cyfunwyd elfennau corfforol gydag interliwdau cerddorol a chyffyrddiadau hiwmor ysgafn a digon o brocio cydwybod y gynulleidfa. Mae’n anodd credu bod y criw wedi llwyddo i greu perfformiad mor gyflawn a gorffenedig mewn cyn lleied o amser.

 

Dyma’r tro cyntaf i’r Theatr Unnos gael ei lle yn arlwy’r Ŵyl Ddrama, sy’n bartneriaeth rhwng Theatr Gydweithredol Troed-y-rhiw a Theatr Felinfach, ond rwy’n eitha siŵr taw dim dyma fydd y tro olaf!