Blog byw Aeron360 o’r Rali

Y diweddara’ o Rali CFFI Ceredigion o Fferm Perth Neuadd

Carys Mai
gan Carys Mai

Ma’r haul yn tywynnu ac mae’r cystadlu wedi dechrau yma ar gaeau Fferm Perth Neuadd!

16:11

Alaw Mair Jones, CFFI Felinfach

Alaw Mair Jones, dirprwy newydd CFFI Ceredigion ac aelod o glwb Felin-fach yn dathlu yn ei milltir sgwâr heddi.

15:40

Grŵp canu CFFI Mydroilyn yn perfformio medli o ganeuon yn cynnwys lliw yn y teitl, geiriau neu enw’r artist.

14:44

Pedwar clwb yn cystadlu yn y gystadleuaeth canu – Bro’r Dderi, Caerwedros, Mydroilyn a Pontsian. 

Y gamp i’r unigolion oedd canu unrhyw gân neu gymysgedd o ganeuon i’w perfformio yn y syrcas.

Dyma Heledd Besent o glwb Mydroilyn yn perfformio ‘Don’t stop me now’.

14:09

Dal i ddisgwyl canlyniadau cystadlaethau’r aelodau – ond dyma damaid i aros pryd! Ymgais aelodau CFFI Mydroilyn ar y blodau a’r coginio.

13:24

Beirniaid y gystadleuaeth gwaith coed yn cymryd eu gwaith o ddifri!

13:24

Dyma Swyddogion newydd CFfI Ceredigion yn cyrraedd y cae gyda CFfI Felinfach. 
Dyma beth oedd gwledd! 

12:57

Mae popeth yn barod ar gyfer seremoni y Coroni.

12:32

Arwydd CFFI Felinfach

Ail i CFFI Felinfach yn ei hunig gystadleuaeth – creu arwydd!

12:25

Ar ddeall bod dros 260 o’r crysau’ma wedi cael eu cynhyrchu ar gyfer y Rali – fe welwch chi nhw ymhob twll a chornel yma heddi! Dros 260 o bobl Felinfach a’r ardal sydd wedi dod at ei gilydd i wneud heddi’n bosib – yn stiwardiaid, beirniaid, addurnwyr, adeiladwyr arwyddion, swyddogion diogewlch a chefnogwyr lu!

12:09

Llongyfarchiadau i Glwb Mydroilyn ar ennill yr Arwydd Gorau. Gwych!