Elusen Motor Neuron

Yr Undodwyr wedi casglu swm sylweddol

Haydn Lewis
gan Haydn Lewis

Enfys Llwyd yn trosglwyddo’r siec i Jan Fisher

Undodwyr brwd yn cerdded ar lannau’r Teifi

Cynhaliwyd gwasanaeth arbennig yng Nghapel Ciliau Aeron Dydd Sul diwethaf. Bu cymdeithas Undodaidd Deheudir Cymru yn cwrdd er mwyn cyfrannu’r arian a godwyd er cof am y diweddar Barchedig Cen Llwyd i’r elusen Motor Neuron. Roedd y gwasanaeth dan ofal Dylan Iorwerth. Bu Cen farw o’r afiechyd creulon hwn ym mis Mehefin llynedd.

Bu Bois y Gilfach yn canu dwy gân a bu Jan Fisher yn bresennol i dderbyn y siec ar ran yr elusen ac yn sôn ychydig am yr ymchwil sy’n mynd yn ei flaen i geisio darganfod triniaeth tuag at y clefyd hwn.

Codwyd rhan o’r arian mewn perfformiadau a gynhaliwyd gan Fois y Gilfach yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron ac wedyn yn Theatr Felinach drwy gyflwyno gwaith ysgafn Jacob Davies.

Daeth tyrfa dda ynghyd i Gapel Brondeifi yn Llanbed rhai wythnosau yn ôl i gerdded ar lannau Teifi a thrwy’r dre i godi arian tuag at yr elusen. Cafwyd gwledd o gacennau wedi eu paratoi gan Mattie Evans wedi i bawb gyrraedd festri Brondeifi ar ddiwedd  y daith. Rhwng yr achlysuron hyn, mi godwyd cyfanswm o £3,000 tuag at elusen Motor Neuron.