I rai, mae bore Sadwrn yn gyfle i roi traed lan ac ymlacio wrth feddwl am benwythnos hamddenol. I Owen McConochie, gŵr busnes 24ain mlwydd oed o Abermeurig, ddydd Sadwrn diwetha (9fed o Fedi), dyma beth oedd yn ei aros:
Nofio 7.2 milltir yn Llyn Padarn, yna seiclo 336milltir ar ffyrdd Eryri, wedyn dringo’r Wyddfa wrth ddechrau ar rediad 78 milltir i orffen un o heriau triathlon mwya’r wlad yn Eryri.
Fe gwblhaodd Owen yr her anhygoel mewn 55 awr a 55 munud, gan orffen yn ail yng nghystadleuaeth y ‘Triple Brutal Triathlon’, a chodi arian tuag at Uned Dialysis Ysbyty Bronglais.
Fe orffennodd yr her ar brynhawn Llun, dros 8 awr cyn y terfyn amser, gan gysgu am brin awr yn ystod y cyfnod.
A fydd cyfle nawr i roi traed lan? Na, mae’n debyg yw’r ateb – mi fydd yn dychwelyd i Eryri fis nesa i redeg Marathon Eryri, ac wedi hynny, mae’n debyg ei fod eisoes yn edrych am yr her fawr nesa.
Owen wedi cwblhau’r her anhygoel