Mae Tafarn y Vale wedi sicrhau buddsoddiad allweddol o £300,000 trwy Gronfa Perchnogaeth Gymunedol Llywodraeth San Steffan.
Bydd yr arian yn mynd tuag at wella ansawdd yr adeilad presennol, uwchraddio cyfleusterau’r tai bach a’r gegin, gwneud yr adeilad yn fwy hygyrch a defnyddio ynni’n fwy effeithlon.
Dywedodd Iwan Thomas, un o gyfarwyddwyr y fenter:
“Mae hwn yn gam pwysig iawn yn siwrne’r Vale i fod yn dafarn sy’n ganolbwynt cymunedol yn Nyffryn Aeron. Y gobaith yw y bydd y buddsoddiad yma yn caniatáu i ni ddechrau’r ddarpariaeth bwyd, ymestyn yr oriau agor a sicrhau bod yr adeilad yn hygyrch i bawb.”
Dywedodd Ben Lake AS:
“Rwy’n falch iawn bod prosiect cymunedol yng Ngheredigion wedi gallu manteisio ar y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol. Mae Tafarn y Vale, fel nifer o dafarndai gwledig eraill, yn ased hollbwysig i’r gymuned. Mae’n creu swyddi ac yn hybu’r economi leol, yn ogystal â rhoi lle i bobl leol gymdeithasu a dod at ei gilydd. Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi gweithio mor galed ar y cais hwn.”