A chymryd eich bod yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi gyrru ar hyd y ffordd o Lanbed i Aberaeron, mae’n rhaid eich bod wedi gweld Ysgol Dyffryn Aeron yn prysur godi. Bydd yr ysgol gynradd newydd sbon yn agor ei drysau ddechrau Ionawr 2025. Ond gyda’r brwdfrydedd, mae hyn yn golygu y bydd tair ysgol yn cau – Ysgol Dihewyd, Ysgol Ciliau Parc, ac wrth gwrs, Ysgol Felinfach. Ysgolion sy’n gyforiog o hanes, ac wedi cyfrannu at brifiant, addysg a siwrne cenedlaethau o blant.
Mae cymuned Ysgol Gynradd Felinfach yn awyddus i gasglu cymaint â phosib o luniau a straeon gan gyn-ddisgyblion, cyn-athrawon, ac unrhyw un fu â chysylltiad â’r ysgol drwy’r degawdau.
Byddem yn gwerthfawrogi’n fawr pe byddech chi’n fodlon rhannu eich lluniau â ni. Y ffordd orau fyddai dod â’ch lluniau yn uniongyrchol i Ysgol Gynradd Felinfach. Cofiwch roi eich enw a chyfeiriad ar gefn y lluniau! Gofynnir yn garedig i bawb ddod â’u lluniau i’r ysgol erbyn 24 Mai, fel bod cyfle i baratoi rhywbeth teilwng yn ystod y misoedd sydd i ddod.
Mae Ysgol Gynradd Felinfach eich angen chi!
Mae’n bwysig ein bod ni’n cofnodi hanes lleol … cyn y bydd yn rhy hwyr, a chyn i’r ysgol gau.
Cofiwch rannu’r neges ymysg eich ffrindiau.
Diolch am eich cefnogaeth.