Josh yn mynd i’r Gemau Olympiadd.

Pob lwc i’r crwt o Ffosyffin.

gan Mair Jones

Daeth y newyddion heddiw bod Josh Tarling o Ffosyffin sydd ond yn 20 oed wedi ennill ei le yn nhîm seiclo Prydain ar gyfer y Gemau Olympaidd ym Mharis yr haf hwn.

Bydd Josh yn cystadlu yn y Ras Ffordd a’r Ras yn erbyn y cloc.

Llongyfarchiadau iddo. Edrychwn ymlaen at ddilyn ei hynt.